Main content

Y Cŵps v Aberhafren

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cywiriad i ffaith Hanesyddol

Y Cŵps
Nid yr Wyddfa yw'r man uchaf
Yn Lloegr a Chymru;
Yng Nghymru yn unig
Y rhoddwyd Rhita i gysgu.

Iwan Bryn James – 8

Aberhafren
@RuthinSchool Glywsoch am y llyfrau gleision? Nid tosh dau gant oed, ond carthion rhyw ŵr yr un
mor wirion a llais Sais yn yr oes hon.

Rhys Iorwerth – 8.5

Cwpled caeth addas i’w osod yn Wimbledon

Y Cŵps
Cei fling ac ing ac angerdd
A chei wefr gan bêl fach werdd.

Huw Meirion Edwards – 9

Aberhafren
Wrth roi wac, paid gwneud racet –
ni all sŵn ennill y sét.

Aron Prichard - 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Esboniais yn hynod dawel’

Y Cŵps
Esboniais yn hynod o dawel
A hithau’n awr weddi’n y capel
“O sori, ond damia,
Y rhech fach ddistawa,
Yw’r waetha am lygru yr awel.”

Dafydd Morgan Lewis – 8.5

Aberhafren
"Rwy'n wlyb mewn man sydd yn ddirgel,
ac mae arogl cas ar yr awel"
sibrydodd y Sais...
"Rhaid codi dy bais"
esboniais yn hynod o dawel.

Aron Prichard - 8

Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Ni allaf aros tan well yfory’

Y Cŵps
Er amau’r hafau a hi’n hydrefu,
Hen dric dieflig heddiw fu’n taflu
Yn noeth i gorwynt o’n nyth o garu
A’r bôn yn gwegian, heb ddim i’w rannu
Ond geiriau dig a’u rhew du’n – fyddar bost.
Ni allaf aros tan well yfory.

Huw Meirion Edwards – 9

Aberhafren
Ie yn Iwerddon

Gan fy mod heddiw ar dân i ganu,
croesi'r dŵr at y gŵr rwy'n ei garu,
dawnsio i riff gitâr afon Liffey
a dweud yn y man fy mod yn mynnu
cael cusan a chael rhannu ei gwtsh clós,
ni allaf aros tan well yfory.

Owain Rhys – 9.5

Triban Beddargraff archaeolegydd

Y Cŵps
Milenia a aeth heibio
i’r beddrod gwag, digyffro,
nes tarodd Emyr glamp o rech
a’r gromlech gwympodd arno.

Geraint Williams – 9

Aberhafren
A welodd hwn wrth gloddio
mai’i fedd ei hun oedd yno?
Neu ddim ond tyrchu tan i’r llwch
yn drwch ddychwelyd drosto?

Rhys Iorwerth – 9

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Ailstrwythuro

Y Cŵps
Mae gen i silff o lyfrau ac arni lyfrau lu,
Rhai’n fawr a rhai yn fychan, rhai Coch a Gwyn a Du.
Mae trefn ar hyn o lyfrau, dwi’n gwybod be di be,
Eu pris a’u gwerth a’u hanes, mae i bob un ei le.

Rhyw nos fe ges i hunllef a’m stydi fach yn llawn
O bobol oedd yn edrych fel taen nhw’n brysur iawn.

“A! Chi ’di Mr Llychlyd! Syr Tweedle Dum dw i
A mhartner draw yn fancw yw Tweedle PhD!”
“Ni’n Llunio, Ailgyflunio a Newid Ansawdd hen
Systemau Tangyflawnol,” meddai’n frwd â gwên.
“Mae’n tîm o ymgynghorwyr, pob un a’i faes ei hun,
Yn barod i’ch cynghori ar drefn eich silff ddi-lun.
Michelle sy’n trefnu’r llyfrau nôl y pris sydd ar y clawr,
Os nad oes pris a bar-code cant fynd i’r bin ar lawr.
O fewn yr ystod prisiau, daw’n partner Tinci Winc,
I’w trefnu nôl eu lliwiau (o las i shocking-pink).
Ac wedyn fe ddaw Daryl i greu adroddiad maith,
Cewch dalu fesul kilo a dwbwl am ddwy iaith.”

Fe aethant wrth i’m ddeffro, fel ellyll cyn y wawr,
A dim o’u hôl ond biliau yn LLANAST ar y llawr.

Arwel Jones – 8

Aberhafren
Daeth memo gan y ddynes sydd yn sgwennu memos maith
yn sôn am newidiadau oedd ar droed yn fy myd gwaith,
a dyma oedd ei byrdwn (a maddeuwch im fy iaith).
Yr adran ailstrwythuro oedd am ailstrwythuro’i hun
ar ôl hunanasesu a phwysoli gwerth bob dyn
(a gwraig) a mesur allbwn a deilliannau risg bob un.
“Mae’n rhaid mewn-ailstrwythuro” medd arfarnwr mwya’r lle
wrth ailstrwythuro’r siwgr trwy ei doddi mewn i’w de,
“ar sail yr adborth gorau a meincnodi’r farn, yntê.”
“Mi syntheseiddiwn heddiw!” gwich-ebychodd Martha Wynn,
“ac ymsynergeddeiddio hyd y swyddfa rŵan hyn!”
“Aliniwn ninnau’n ffocws,” meddai Joni Depp ap Glyn
wrth ailstrwythuro’i seidars, gan fod Martha yn ferch hot,
ond yna daeth y bos i mewn a bloeddio: “The whole lot
of the Adran Ailstrwythuro, of you I’m getting shot!”
A dyna oedd y memo’n trio’i ddweud (yn fwy neu lai) –
nad ydi hi’n bod mwyach yn fy ngweithle do or die
yr adran ailstrwythuro gynt. Bŵ-hŵ. He-he. Bye-bye.

Rhys Iorwerth – 9

Ateb llinell ar y pryd: Y mae’r gong i rai mor gain

Y Cŵps
Y mae’r gong i rai mor gain,
Hen wendid llyfu Llundain

0.5

Aberhafren
Y llond o feddwl Llundain,
Y mae’r gong i rai mor gain

0.5

Y Cŵps
Ceffylau’n cachu* hyd strydoedd Llundain
a dynes mewn coets dan ei choron ddrud
wrthi’n ymarfer ei haraith filain
gan chwifio, drwy’i maneg, ar dorf y stryd;
cyn gorymdeithio drwy’i siambr ermin
ym mydysawd sgleiniog ei ffrog drom, hir
i eistedd ar orsedd aur, a’r werin
absennol heb glywed parablu’r gwir.
Ac yna yn ôl, yn ôl i’w phalas,
i wledda’n weddus ar borslen y wlad
heb dreth ar yr un ystafell wely,
heb orfod poeni am wella’u hystâd.
Ac mae rhai o hyd yn rhofio’r strydoedd
ond drewdod yw sy’n aros am hydoedd.

Dafydd John Pritchard – 9.5

Aberhafren
Fe redan nhw drwy fy egni
gyda’u dyrnau brwnt
a syllaf ar ein staen jam
o gartre.
Yn sŵn briwsion
a nodau poenus piano
camaf ar ddarn o lego
a dyna hi.
Af drwy’r drws yn drwm
a’i chwalu ar gau,
at y lôn
y breuddwydiaf amdani.
Cerdded drwy’i llonyddwch
a diolch am dawelwch.
Ond daw cecru adar yr hwyr
a chic rhyw bêl o bell
i’m baglu.
A throf yn ôl
yn yr haul marw,
troi am y drws
a’r sŵn
sy’n chwilio amdana i.

Mari George – 10

Englyn i unrhyw ddyfais

Y Cŵps
Un o awyrennau dibeilot Aber-porth

Diwingo y daw angau – o’i haden,
Heb na gwaed na dagrau
I’w baeddu, heb weld beddau;
Sgwriwn ni’r byw sgriniau’r bae.

Huw Meirion Edwards - 10

Aberhafren
Zippo

 chlic gyda'i bawd, fflach las ar ei chof
yw'r ferch ifanc eirias.
Taflu'r stwmp, cip o'i chwmpas,
a thrwy'r mwg mae'n llithro mas.

Owain Rhys – 9.5

Cyfanswm
Y Cŵps – 71.5
Aberhafren – 73