Hiraethog v Bro Alaw
Hiraethog v Bro Alaw
Trydargerdd : Gwahoddiad i Aduniad Ysgol
Hiraethog
Gwahoddiad i Aduniad Ysgol breifat Rhuthun
Welcome thru’ my school's wide doors,
Just as broad as my mind, of course;
Wine and dine, be not deprived
But you must leave your Welsh outside
Gwenan Prysor – 8.5
Bro Alaw
Gan ddymuno ymddeoliad hapus
I gyn-Brifweithredwr Môn, Richard Parry Jones
Aduniad: flwyddyn nesa:
Gorffennaf: ail ddydd Iau:
Ysgol Llaingoch, Caergybi
‘Sna fydd Cyngor wedi’i chau.
Cen Williams - 8
Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw ddiod
Hiraethog
Dŵr yfed wna dir hyfyw
rhag i’n brodyr fudur fyw.
(‘rhyw fudur fyw’ yn ddywediad tafodieithol am rhyw hanner byw digon anodd)
Ffion Gwen – 8.5
Bro Alaw
Un dwbler o Benderyn
Heb yr iâ sy’n dda i ddyn
Ken Owen – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell: ‘Nid pawb yn y tîm sy’n cytuno’
Hiraethog
Nid pawb yn y tîm sy'n cytuno
Â'r hyn a ddywedais i heno:
Y cyfan wnes i
Oedd dweud ein bod ni
O hyd am wn i’n anghytuno.
Gwenno Davies – 8.5
Bro Alaw
Wrth drafod y cynnyrch at heno,
Awgrymodd ein Prifardd fod ganddo
Fwy o grap ar farddoniaeth
Na 'phlebs di-wybodaeth',
Nid pawb yn y tîm sy'n cytuno!
Ioan Roberts – 8.5
Hir a Thoddaid yn cynnwys y llinell: ‘A oes i mi haf ym mis Mehefin?’
Hiraethog
Gwewyr John Glyn
Yn heulwen Mai eleni mae ewin
Miniog farugog yn deifio’r egin;
Oerfel, pan ddêl, â lladd yn ei ddilyn,
Lladd blagur y berth, lladd ysbryd chwerthin;
Mae’n oerach mwyach a mi’n galon glaf;
A oes i mi haf ym mis Mehefin?
Rhys Dafis - 10
Bro Alaw
A oes yna bryder, f’annwyl werin,
Ydych chi wrthi, da chwi, â’ch chwerthin?
Ai hyn yw fy rhan cael bod yn frenin,
Neu yn hel rhwd fel rhyw hen lwy bwdin
Yma’n y ciw fel cyw’r Cwîn? – Gofynnaf:
A oes i mi haf ym mis Mehefin?
Geraint Jones - 9
Triban Beddargraff: Arweinydd Cymanfaoedd Canu
Hiraethog
Â’i freichiau am i fyny,
fe godai’r to â’i ganu,
ond heno, gyda’i freichiau ynghyd,
yn fud mae’r to yn gwasgu.
Eifion Lloyd Jones - 9
Bro Alaw
Ar ganol ei hoff emyn
Fe fflatiodd hwn yn sydyn
Fe’i trechwyd gan “Pa le, Pa fodd?”
A chododd o ddim wedyn.
Geraint Jones – 9.5
Cân Ysgafn heb fod dros 20 llinell: Diweddariad o’r Gwynfydau
Hiraethog
Gwyn ei 'feard' ’rhen Santa annwyl, ddwg anrhegion yn ei sach.
Gwyn ei 'feard' Lyn Ebenezer, (er nad ydio ond 'beard' bach).
Gwyn ei 'feard' yn ôl pob tebyg ydoedd Dewi, ein Sant mawr.
Gwyn ei 'feard' y dewin Myrddin - c’rhaeddai hwnnw at y llawr.
Gwyn eu 'beard' yr holl gorachod sydd gan Ceri yn ei ardd
(rhyfedd nad oes 'beard' gan hwnnw er mwyn edrych mwy fel bardd).
Coch eu 'beard' y Gwylliaid Cochion, herwyr Mawddwy, hy’ eu llun,
Coch ei 'feard' yw John neu Alun - dwi'm yn siŵr pa un 'di p'run.
Du ei 'feard' fy nghariad innau; penderfynodd gael un, do,
(nid oedd hoff ohoni'i ddechrau, ond mi dyfodd arno fo).
Rhyfedd o 'feard' welais unwaith yn y syrcas - hollol 'weird'.
Anweledig un, dwi'n cymryd, sydd yn eiddo i Catrin Beard.
Twt eu 'beard', a destlus hefyd, yw rhai trendi tîm y Glêr,
Tra bo 'beard' ’rhen Cynan Madarch yn hel llwch a braidd yn flêr.
Tro ar ‘feard’ ddaeth i Moi Parri - roedd ei ‘feard’ fel cyrn un waith.
Tîm Bro Alaw druan wedyn, gyda dim ‘beard’ rhyngddynt, ’chwaith.
Gwyn ei 'feard', a'i wallt o hefyd, wych Huw Erith o'r Tir Mawr
(edrych hwn ’run fath yn union wrth ei weld â'i ben i lawr).
Ond y ‘beard’ oedd yn rhagori ar bob ‘beard’ o dan y nef
Oedd y ‘beard’ fu heddiw'n trigo ar fy wyneb - cyn cael shêf.
Gwenno Davies - 9
Bro Alaw
Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd
Canys tlotach ânt bob munud.
Gwyn eu byd rai addfwyn, pybyr
Hwy a gânt bob joban fudur.
Gwyn eu byd drugarog eu rheswm
Ni chânt swydd gan y Dreth Incwm.
Gwyn eu byd y rhai pur o galon
Cânt eu twyllo gan fyddigion
Gwyn eu byd y galarwyr hysbys
Cânt eu cofio yn y ‘wyllys
Gwyn eu byd dangnefeddwyr ynfyd
Cânt eu galw’n griw busneslyd
Gwyn fyd y gŵr sy’n cadw cannwyll
Yn y drôr nes bydd hi’n dywyll.
Gwyn eu byd ddarganfyddwyr bresys
Fyth ni fyddant hwy heb drowsus
Gwyn eu byd y rhai a gânt eu herlid o achos cyfiawnder
Twrneiod gaiff eu pres bob amser.
Gwyn ei fyd yr Esgimo.....
Geraint Jones – 9.5
Llinell ar y pryd: Ddoe, gêm hardd oedd y gêm hon
Hiraethog
Ddoe, gêm hardd oedd y gêm hon,
Caru am hanner coron.
Bro Alaw
Criw Fifa
Criw anllad, rogues a lladron,
Ddoe, gêm hardd oedd y gêm hon.
0.5
Telyneg neu Soned: Llais
Hiraethog
I John Glyn, a fagwyd ar fferm y Llys, ger Dinbych,
safle’r gaer fu’n gartref i Gwenllian, merch Llywelyn Fawr
Mae sŵn hen wylo yn Llys Gwenllïan,
sŵn colli’i phlant ar hyd y canrifoedd;
na, nid oes bellach ‘ffin rhwng byddinoedd’*
ond nid ei hiaith hi yw iaith y winllan.
Mae’n wylo heno am eiriau’r garddwr
fu’n prysur araf warchod y llwyni
yn ddoeth a chadarn rhag y mieri
â’i wên ddireidus i gyd-wladgarwr.
Drwy’r mwg, daw murmur melfedaidd pwyllog
fod rhaid in droedio sawl llwybr troellog;
daw angerdd tawel y dyfnder llonydd
am sychu dagrau a gweld o’r newydd:
“Un cyfle byr a gawn i wireddu
breuddwyd Gwenllïan ar ddaear Cymru.”
(* o gywydd heriol JG, ‘Fy ngwlad’)
Eifion Lloyd Jones - 9.5
Bro Alaw
Yn y gwanwyn, pan ddeuai meddyliau
fel cymylau i grychu talcen,
ac awydd i herio’r Deg Gorchymyn
yn llifo trwy bob gwythïen,
clywn lais yn sibrwd yn fy nghlust
er imi ganwaith weiddi ‘Ust’.
Pan oedd y dail yn ir a geiriau’r
tudalennau’n procio rheswm,
clywais am yr annog trwy weddïau,
llais yn eu harwain i orthrwm:
“Byddaf wrth law i’ch arbed chwi,
deuwch i ryfel gyda mi.”
Heddiw â’r blaenffrwyth wedi gwystno,
y gwywo yn garped
o gyrff gwrthryfel yn ei enw o
trwy wledydd cred,
gweithredu wnawn heb glywed dagrau cri
y llais sy’n llefain yn ein clustiau ni.
Cen Williams – 9
Englyn: Blwch
Hiraethog
Blwch Casglu
Daeth awr y rhannu â’r truan – yn hwb
i obaith sy’n gwegian;
creu her wna tinc yr arian:
dyma werth y newid mân.
Berwyn Roberts – 8.5
Bro Alaw
Blwch Pleidleisio
Ni bu gwyddor ragorach – i roi’n barn
Er ein bod yn grwgnach;
Onid yw’n bod i’r dyn bach
A’i gŵyn, gael llais amgenach.
Richard Parry Jones – 8.5
Cyfanswm
Hiraethog – 71.5
Bro Alaw - 71




