Main content

Y Tir Mawr v Aberhafren

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol) : Cyhoeddi Ymddiswyddiad

Y Tir Mawr
Y ferfa gafodd byncjar;
Cau tanio y mae'r strimar;
O'i ardd does neb yn cael y sac –
Dwi am darmacio'r uffar.

Huw Erith – 8.5

Aberhafren
Ni waeddais ar y teipyddion, rhoi wad, na sarhau’r perchnogion, chwarae’r ffŵl na
chrio i’r ffôn. Ni ddigiais. Ond ces ddigon.

Aron Prichard - 9

Cwpled caeth ar yr odl ‘in’

Y Tir Mawr
Llawer o'r dewrder o blaid y werin
A wiriona ar wobrau y brenin.

Gareth Neigwl – 8.5

Aberhafren
Mewn tyrau, mewn blociau blin,
cawn hefyd fod cynefin.

Aron Prichard – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell “Mae’n bleser ymweld â’r clwb rygbi”

Y Tir Mawr
Mae ‘mysedd a ‘nrhwyn wedi torri
A ‘nannedd dan dorchan yn rhesi
Fy njiocstrap sy’n deilchion
Tu mewn yn grybibion
Mae’n bleser ymweld a’r clwb rygbi

Gareth Jôs – 8.5

Aberhafren
Mae’n bleser ymweld â’r Clwb Rygbi
yn nhref Cymru’r-Drindod-y-Dewi-
Brifysgol-y-Sant
(neu rhywbeth, ’dwi’m gant
y cant am yr enw, rwy’n sori).

Rhys Iorwerth – 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) i unrhyw greadur

Y Tir Mawr
Daeth y brid Dafad Benfrith y Rhiw i ben tua chanol pumdegau'r ganrif ddiwetha. Tarddiad y brid yn ôl traddodiad oedd tair dafad a lwyddodd i ddod i'r lan oddi ar sgwner a chwythwyd ar y creigiau ym Mhorth Neigwl ddwy ganrif ynghynt.

Dwrn o wynt o Dir na nOg
a gwlân Neigwl ewynnog
yn tewhau ar y tywyn.
O hwrdd y lli, daeth praidd Llŷn.

Yna, ond un ohonynt
ar riw gwyllt y môr a'r gwynt.
Ddiwedd haf, dilynodd hi
Ei thylwyth i'r porth heli.

Ond daw bref o'i chynefin
Fel berw iaith ar wefl brin;
Hi yw'r ias ar fawd a red
Y wellaif wedi'r golled.

Gareth Neigwl - 10

Aberhafren
Nôl ei baent, canolbwyntio,
y fi’n dweud stori, a fo
efo’i frwsh a’i haid o frain
yn hela bwystfil milain,
yn ei erlid ar garlam,
hwnnw’n rheg, a’i geg yn gam.
Mor hawdd i mi yw’r addo
mai gwaith ei ddychymyg o
yw popeth ar y papur,
ond o weld ei gleddyf dur,
rwyf nawr tua therfyn nos
yn darian, wedi aros.

Owain Rhys – 9.5

Pennill mawl neu ddychan (ar ffurf y clerihew) i unrhyw Gymro neu Gymraeg enwog

Y Tir Mawr
Roedd John Morris Jones
Wrthi'n golchi'i drôns
Pan droth ar ei sawdl
A mynd i feirniadu'r awdl.

Huw Erith - 9

Aberhafren
Carwyn Jones,
petasai gennyt glôns,
ni fyddai angen arnom Dduw
na chau ein llygaid wrth gael rhyw.

Owain Rhys – 8.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Carnifal

Y Tir Mawr
Nedw Parri wnaeth hi’n hysbus fod ‘na ‘Dransylvanian Tit’
‘di cartrefu ar yr ynys er fod neb yn gwybod sut

Ar ol cwta awr ar Twitter, ym mhen Llŷn, mewn dim o dro
Clywid cân esgidiau’r Twitcher yn brasgamu tua’r fro

Ac i ffroenau’r bobol leol wrth i’r fintai ddod yn nes
Yn lle’r ogla tail arferol fe ddaeth chwa o ogla pres

R’ôl i’r pla o bererinion gael eu pluo fesul un
Fe’u pentyrwyd ar eu hunion i holl gychod bach pen Llŷn

Dyma groesi’n ddi ymaros. Fe’u croesawyd gan y côr
Yn cyd-floeddio ‘Titw Tomos’at eu boliau yn y môr **

Hyd y cei, drwy’r gwerthwyr hadau, fe’u harweinwyd yn y man
O’r armada i dractorau , ffôr bei ffôrs a charafans

Roedd ‘na bedair mil neu ragor ar yr ynys erbyn hyn
Efo Seindorf Arian Trefor yn eu harwain ‘fyny’r bryn

‘mlaen a’r syrcas ogoneddus gyda thinc a thonc a chlap
Drwy’r stondinau rhad anhysbys oedd yn gwegian efo crap

Daeth i stop wrth hen giat fochyn. Aethant drwyddi fesul un
Pedair punt i weld y deryn, ffiffdi pî i dynu’i lun

Rhiw ddiflanu wnaeth y Titw cyn handied ag y daeth
R’ôl y carnifal a’i dwrw d’oedd y lle ddim llawer gwaeth

Y mae Nedw yn Awstralia. Fe ddaw adra (n’ôl bob sôn)
Pan gawn weled Kookaburra ddiwedd Awst ar Ynys Môn

** unwaith fyddai pawb wedi cyrraedd yr ynys ni fyddai lle i’r côr ar y lan

Gareth Jôs – 9.5

Aberhafren
Roedd cyw-Archdderwydd newydd wedi’i ethol i’r maen llog
a Tharo’r Post mewn meltdown gan fod hwn yn glamp o rôg.
Allai Elfed mo’i reoli ac roedd tri gŵr doeth Parc Nest
’di mynd i garafanio dros yr ha i Borth-y-Gest.
O’r maen, rhoi fflich i’w benwisg oedd y cynta peth wnaeth hwn,
cyn dweud, “mae angen sbriwsiad arnoch oll”, a phwyntio gwn
at Robyn Léwis druan. Yna’r Arch ddywedodd, “Rob,
jest trefna drip i Rio yn reit cwic, a chau dy gob.”
Ac wele’n mynd ar fore teg, mewn jymbo Easy Jet
dri chant o gobans trilliw a Thwm Morys heb ei het.
Mewn wythnos mi ddychwelsant. Yn y Fenni cawn ni hwyl:
bydd ffrwyth eu taith yn gyrru sawl rhes conga trwy ein gŵyl.
Yn lle’r hen gylchoedd cerrig, bydd ’na fflôts a Mardi Gras
a’r Ceidwad a’r Cofiadur yn eu ffrili ffrocs cha-cha.
Reggae fydd gweddi’r orsedd, ac yn lle’r flodeuged, bong;
Christine ac yna Hilma’n cymryd tôc (a’i wneud yn rong).
Yn lle’r ddawns flodau, samba; drymiau dur nid telyn bren,
a het fawr blu’n lle coron; Eigra’n Gwîn y Steddfod Gen.
A pha Archdderwydd, meddech, wnaeth Robinho o Robyn Llŷn?
Mae’r ffurflen i’m henwebu i fod mewn cyn bore Llun.

Rhys Iorwerth – 9

Ateb Llinell ar y pryd: Bu son fod y BBC

Y Tir Mawr
Bu son fod y BBC
Taw arian yw cosb Tory

0.5

Aberhafren
Bu son ar y BBC
Yn taro nôl mae’r Tory

Telyneg (heb fod dros 18 llinell) neu soned: Adnewyddu

Y Tir Mawr
Hiraeth am hen dymhorau – dyna glec
reit saff i gyn-fyfyriwr sy'n cael tro
rownd Pantycelyn. Clywaf, wrth gael sbec
ar draul y lle, hen gân fod gan bob to
o breswylwyr waith i'w wneud – i gynnal gardd,
di-blicio'r paent, ail-drwsio tyllau'r llenni;
adfer calon hefyd: mewn gweithdy bardd,
mewn côr a band, mae profiad i'w ail-eni.
Camaf i mewn drwy'r ffenest: sachau cysgu,
sosban gawl a rheng o wynebau clai
yn gwrthod derbyn porth yn cau, heb ddysgu
fod 'na'r ffasiwn beth ag ildio; y rhai
wrth imi ffoi, sy'n rhoi efo'u brwshis gwyn,
gôt ar fy waliau innau yn fan hyn.

Myrddin ap Dafydd – 9.5

Aberhafren
(Fy Mamgu yw un o’r trigolion hynaf yn Llansaint sydd, fel cynifer o bentrefi eraill, yn llawn tai haf erbyn hyn)

Down i dy weld di weithiau,
dy wylio yn frwd
yn cyweirio sanau,
troi hen liain les yn hancesi
a’th gartre’n plygu’i ben.

Ry’n ni’n ceisio llenwi gwacter
dy bentre di
gyda’n bwnsh blode o wanwyn.

Ac wedi gosod twtsh o baent fan hyn
a fan draw
a thorri’r gwair,
awn oddi yno
yr un fath
bob tro
a’r hewl yn erydu teiars ein bwriadau.

Awn cyn i ni weld adar y to
wrthi eto’n trwsio’u nythod
gyda mwd
eu gwanwyn nhw.

Mari George – 9.5

Englyn: Llwybr

Y Tir Mawr
Lôn Gwyrfai, llwybr TH Parry-Williams yn Rhyd Ddu

Ym mhen y lein mae 'na lôn – i ‘nhynnu
dros fawnog ac afon
a hen sarn; mae yno sôn
pwy yw pwy rhwng copaon.

Myrddin ap Dafydd – 9.5

I dref tu draw i’r afon, i dafarn
lle nad wyf, ar gyrion
rhywle o hyd y mae’r lôn
na wn lle mae hi’n union.

Rhys Iorwerth - 10

Cyfanswm
Y Tir Mawr – 73.5
Aberhafren – 72.5