Ffostrasol v Y Ffoaduriaid
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol) : Tour de France
Ffostrasol
Rwyf wrthi yn ffriwhîlo
Am nad wy’n hoffi pedlo,
A gallaf ddweud yn hollol glir
Na ‘ngwelir i fan honno.
Jim James - 8
Y Ffoaduriaid
Wrth reidio'n y Tour de France
fe gredais bod wir gen i jans
ond tra'n pedlo fel fflamia
fe rwygodd fy leicra
tro nesa gwell cofio fy mhans.
Gruffudd Owen - 8
Cwpled caeth addas i’w osod wrth fynedfa Eisteddfod Llangollen
Ffostrasol
Deued gwâr o bedwar ban
I uno mewn hen anian.
Iolo Jones – 8.5
Y Ffoaduriaid
Drwy bob rhyfel mae telyn
yn canu i deulu dyn.
Gruffudd Owen – 9.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni wn i a yw e’n beth creulon’
Ffostrasol
Dadgeilliais yr hen gwrci bodlon,
Ni wn i a yw e’n beth creulon,
Ond roedd pwsis y fro
Bron myned o’u co’
O gael cathod bach anghyfreithlon.
Emyr Davies – 8.5
Y Ffoaduriaid
Ni wn i a yw e’n beth creulon
i lusgo eich plant i ‘marferion
am oriau di-ri
cyn sioe ITV
i gael cweir gan ryw gi bach reit wirion.
Gwennan Evans – 8
Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Gadawyd yr iet ar agor eto’
Ffostrasol
‘Gadawyd yr iet ar agor eto’
A thrwy’n distawrwydd dedwydd di-hidio
Fe ddeil y bleiddiaid creulon i heidio
Yma ar wib, gyda’u grym i reibio
Holl lwyni’r hen winllan honno - lle’r oedd
Grymoedd trwy’r oesoedd cyn dydd y treisio.
Dai Rees Davies - 9
Y Ffoaduriaid
Gadawyd yr iet ar agor eto,
ninnau'n estyn ein gresyn o groeso,
troi'n drobyllau sy’n trio'n darbwyllo
ni ein hunain nad ydan ni'n huno.
Di'r otsh: daw diwedd, ryw dro ar ein sŵn,
oni chychwynnwn i'w chau hi heno.
Llŷr Gwyn Lewis – 9
Triban Beddargraff trwsiwr neu drwswraig peiriannau golchi
Ffostrasol
Ni fu yr holl driniaethau
Yn drech na chylchdro angau;
A gorwedd yma, gwaetha’r modd –
Mae’n anodd cael y partiau!
Gareth Ioan - 9
Y Ffoaduriaid
Ni th'wyllodd rioed run oedfa,
ond nefoedd gaiff, mi w’ranta,
pan ddaw o allan, y mae'n rhaid,
ag enaid gyda'r gwynna'.
Llŷr Gwyn Lewis – 9
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Daith Ddirgel
Ffostrasol
Y Parch wnaeth y trefniadau ar ôl cael pwyllgor brys
I drefnu pwyllgor arall, er mwyn cael pwyllgor is.
Cytunwyd ar daith ddirgel, ‘roedd pawb am wybod ble,
I’r dwyrain neu’r gorllewin, y gogledd neu y de.
Os ydoedd fod yn ddirgel on’d oedd yn gwestiwn ffôl
Gan byddai pawb yn gwybod ‘rôl iddynt gyrraedd nôl.
Dyfalu fu am ddyddiau ai trip i weld y Bae,
Taith ddirgel i’r amlosgfa, neu gartref cathod strae.
Yr oedd y daith i gychwyn yn brydlon erbyn naw,
Pob blaenor parchus Seilo a’i fwced bach a rhaw
Rhag ofn y byddai’r fangre ar draethell unig o’r,
Ger creigiau Aberaeron a thonnau gwyllt y môr.
Arhoswyd ymhen tipyn mewn llecyn digon hardd
I weled cartref rhywun a alwai’i hun yn fardd,
A ddaeth yn adnabyddus ac enwog yr un pryd
Trwy ddarllen gwaith beirdd eraill mewn talwrn, dyna’i gyd.
Fan hyn bu bach o anffawd wrth geisio a throi rownd
A’r gyrrwr braidd yn lletchwith, fe aeth y bws yn sownd,
A threuliwyd yr holl ddiwrnod heb weled fawr ddim byd, -
A’r daith i rywle dirgel, - dirgelwch yw o hyd.
Emyr Davies – 9.5
Y Ffoaduriaid
Roedd merched Capel Horeb, bob blwyddyn doed a ddêl,
yn mynd ar daith fws ddirgel i Sŵ Fryste ag i’r sêl.
Wedi teithio am rai oriau, a Gwyneth gael snŵs am sbel
deffrodd i weld y bws yn wag – “lle ddiawl mae pawb? O hel!”
“Lle ar wyneb daear ...?” Yn wir, aeth ei chalon yn wan
pan welodd arwydd mawr yn dweud “Welcome to Glasto, man!”
Saethodd o’i sedd fel torpido “Faddeua i byth i’n hun.
Mae Meirwen fach yn naw deg tri! Mae Beti angen clun!”
I ffwrdd â hi i’r caeau, fel bugail am ei phraidd.
Meri ffendiodd hi gyntaf un yn s’mygu ac udo fel blaidd.
Wrth y pyramid ’oedd Margaret, yn codi’i sgert â llef,
cyn rhoi rhyw ffling i’w blows a fflasho’i bronnau mawr i’r nef.
Roedd Gwen di llwyddo i basio pob un gwarchodwr ddyn,
roedd hi a Jay Z’n sgwrsio’n braf am Rownd a Rownd nos Lun.
A Beti? Daeth i’r fei’n y diwedd, wedi crwydro’r cae bob cam -
mewn pabell efo’r gyrrwr bws, ei bochau bach yn fflam.
Gwnaeth Gwyneth i bawb addo, na sonient yr un gair
wrth neb am helynt mawr y rhyw, y roc a rôl a’r gwair.
Cytunodd pawb o'r diwedd, ond ar un amod fach,
sef bod y trip yn mynd yn ôl bob tro, os byw ac iach!
Casia Wiliam – 9
Ateb llinell ar y pryd : Ni ddaw gwell na’r dyddie gwyn
Ffostrasol
Rwyf heb ddyled ond wedyn,
Ni ddaw gwell na’r dyddie gwyn
0.5
Y Ffoaduriaid
Ni ddaw gwell na’r dyddie gwyn,
A Nel yn dal i’n nilyn.
0.5
Telyneg (heb fod yn fwy na 18 llinell) neu soned: Cyfaill
Ffostrasol
I Bet yn hedd Brodawel mae’r p’nawniau’n llusgo’n hir
 phawb mewn cadair esmwyth a’u cefnau at y mur.
Dim sôn am bobi bara, dim sôn am weithio te
I’r bois cyn amser godro a rhoi’r gwas bach ‘n ei le.
Dim cywain gwair na chneifio, dim codi tato chwaith,
‘Mond eistedd yno’n segur a’i dwylo’n erfyn gwaith.
Ond ar b’nawn Iau ast ddefaid a ddaw i’w gweld i gyd
I’w thywys rownd y ‘stafell i dderbyn maldod mud.
Bydd dwylo Bet yn mwytho yr ast fach yn y man
Ac yn ei llygaid duon bydd Meg a Fflos a Ffan.
Gareth Ioan - 9
Y Ffoaduriaid
Roedd gen i feddwl go fawr o’r hen Beugeot bach,
a’r Ffrangeg wedi treiglo’n ddealltwriaeth rhyngom.
Nabyddwn ei frathiad, ei frêcs; mi wyddwn
yn iawn am ludded neu am syched y c’radur,
neu sut i’w yrru’n syth fel pladur i aredig milltiroedd.
Un glas fel yr asur oedd – pan nad oedd llwch
ein hafau hir, neu fwd gaeafau’n gwrlid drosto;
y sêt yn yr union le, siâp fy sawdl wedi gwisgo’r carped,
a’r llwch oedd wedi hel ar hyd y dash yn ddegawd, bron,
o ronynnau o ’Werddon ac o Ffrainc, a mwy na’i siâr o Bowys.
Ac er nad oedd ond pentwr o fetel a phlastig,
pan ddaeth hi’n bryd addef nad oedd torri lawr o hyd
yn werth y drafferth bellach, yn sydyn
mi glodd rhywbeth ynof, gan fethu gadael fynd.
Un ai ’mod i wedi’i weld yn ffrind
neu ’mod i’n synhwyro bod rhywbeth heblaw’r car
ei hun yn diflannu’n ddiseremoni
i lawr y lôn i’r iard sgrap, un pnawn Sadwrn blêr.
Llŷr Gwyn Lewis – 9.5
Englyn: Gwyddbwyll
Ffostrasol
(Gwyddbwyll i wleidyddion
Er parod ymosodiad, – er pob tric,
Er pob trap a chipiad;
Awydd cawr uwch byrddau cad
Yw ennill fesul syniad.
Gareth Ioan - 9
Y Ffoaduriaid
Yn hirfaith daw’r anorfod – a heno
mae’r brenin yn gwybod
o bishyn i bishyn bod
awr ei ddifa ar ddyfod.
Gruffudd Owen – 9.5
Cyfanswm
Ffostrasol - 71
Y Ffoaduriaid - 72




