Cymru 51-3 Yr Alban
- Cyhoeddwyd

Daeth y cais gyntaf gan Liam Williams
Cymru 51-3 Yr Alban
Mae Cymru yn dathlu ar ol sgorio saith cais yn erbyn yr Alban a chipio buddugoliaeth rhwydd.
Dyma oedd un o berfformiadau salaf yr Alban gyda'r tim yn ddi-siap ac yn anobeithiol yn ymosodol ac yn amddiffynnol.
Doedd hi ddim yn argoeli'n dda i'r ymwelwyr wedi i Kelly Brown orfod gadael y cae gydag anaf. Ond aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i Stuart Hogg gael ei anfon o'r cae ar ol tacl hwyr peryglus.
Efo'r gwrthwynebwyr lawr i 14 dyn, cymerodd Cymru fantais lawn gyda thri chais yn cael eu sgorio yn yr hanner cyntaf gan Liam Williams, George North a Jamie Roberts. 27-3 oedd y sgor ar hanner amser.
Doedd dim rhaid disgwyl yn hir nes bod mwy o geisiau yn dod gyda George North yn sgorio ei ail a hynny ychydig funudau ar ddechrau'r ail hanner.
Daeth perl o gais arall i Jamie Roberts. Ei ail yntau ar ol symudiad o un pen y cae i'r llall a'r chweched gan Taulupe Faletau.
Chwaraewr y Scarlets, Rhodri Williams gafodd cais olaf y gêm a'i gais cyntaf dros ei wlad.
Y sgor terfynol oedd 51-3 i Gymru.
Dyma'r drydedd fuddugoliaeth cartref yn y bencampwriaeth ond tymor chwerw melys ar ol iddyn nhw golli dwy gêm oddi cartref yn erbyn Iwerddon a Lloegr a hynny yn rhy hawdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2014
