Iwerddon 26-3 Cymru
- Cyhoeddwyd

Dave Kearney yn cael ei daclo gan Richard Hibbard
Mae breuddwydion Cymru o Gamp Lawn arall ar ben gydag ergyd mawr hefyd i'w gobeithion o ennill tair pencampwriaeth yn olynol ar ôl colli yn Nulyn.
Hwn oedd y tro cyntaf i Gymru colli oddi cartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers 2011.
Fe wnaeth Cymru ildio gormod o giciau cosb yn yr hanner cyntaf.
Hefyd roedd y llinell yn wallus ar sawl achlysur.
Fe aeth Iwerddon 6-0 ar y blaen gyda chiciau cosb gan y maswr Jonathan Sexton.
Bu'n rhaid i Scott Williams adael y cae gydag anaf yn dilyn gwrthdrawiad gyda Brian O'Driscoll.
Buddugoliaeth
Daeth cais Iwerddon o Chris Henry wrth i'r blaenwyr hyrddio ymlaen ar ôl ennill y bêl yn y llinell.
Parau wnaeth gwendidau Cymru ar ddechrau'r ail hanner, gyda Sexton yn rhoi'r Gwyddelod 16-0 ar y blaen gyda chic gosb arall.
Deffrodd y Cymry ar ôl hynny, gyda rhediad Jamie Roberts yn gweld sawl ymdrech gan flaenwyr ac olwyr Cymru i fynd dros y llinell.
Daeth pwyntiau cyntaf Cymru drwy esgid Leigh Halfpenny ar ôl i Iwerddon droseddu yn y scrum ar ôl 55 munud.
Ond llwyddodd Sexton gyda chic cosb arall cyn i gais hwyr Paddy Jackson sicrhau'r fuddugoliaeth.
Iwerddon: 15-Rob Kearney, 14-Andrew Trimble, 13-Brian O'Driscoll, 12-Gordon D'Arcy, 11-Dave Kearney, 10-Jonathan Sexton, 9-Conor Murray; 1-Cian Healy, 2-Rory Best, 3-Mike Ross, 4-Devin Toner, 5-Paul O'Connell, 6-Peter O'Mahony, 7-Chris Henry, 8-Jamie Heaslip
Eilyddion: 16-Sean Cronin, 17-Jack McGrath, 18-Martin Moore, 19-Dan Tuohy, 20-Tommy O'Donnell, 21-Isaac Boss, 22-Paddy Jackson, 23-Fergus McFadden
Cymru:15-Leigh Halfpenny, 14-Alex Cuthbert, 13-Scott Williams, 12-Jamie Roberts, 11-George North, 10-Rhys Priestland, 9-Mike Phillips; 1-Gethin Jenkins, 2-Richard Hibbard, 3-Adam Jones, 4-Andrew Coombs, 5-Alun Wyn Jones, 6-Dan Lydiate, 7-Sam Warburton, 8-Taulupe Faletau
Eilyddion: 16-Ken Owens, 17-Paul James, 18-Rhodri Jones, 19-Jake Ball, 20-Justin Tipuric, 21-Rhys Webb, 22-James Hook, 23-Liam Williams
Dyfarnwr: Wayne Barnes (Lloegr).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
