Cerddi poen cronig menywod yn 'rhoi egni' ac addysg

Mae clare potter, sy'n byw â ffibromyalgia, yn un o feirdd y gyfrol
- Cyhoeddwyd
Mae bardd sy'n dweud iddi gadw'n dawel am ei chyflwr cronig wedi "cael egni" o gyfrannu at gyfrol o gerddi gan fenywod sy'n rhannu profiadau tebyg.
Mae gan clare e. potter, 53, sy'n fam i ddau o Bentre'r Eglwys ger Pontypridd, gyflwr ffibromyalgia, sy'n golygu ei bod yn byw â blinder llethol a phoen cyson.
Mae'n un o 14 o feirdd sydd wedi ysgrifennu cerdd mewn cyfrol i "ddechrau sgwrs a herio stigma", meddai, am salwch, poen neu gyflyrau cronig.
Bydd copïau o flodeugerdd Menywod Cronig yn cael eu rhannu â meddygfeydd teulu a lleoliadau gofal iechyd eraill gyda'r nod o wella dealltwriaeth.
Meddygon yn dweud 'mae'r cyfan yn dy ben' er poen cyson
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2025
Cysur o rannu profiadau anabledd cudd ar-lein
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
Mae ffibromyalgia yn gyflwr cronig sy'n aml yn achosi poen cyson mewn gwahanol rannau - neu ledled - y corff, yn ogystal â blinder llethol.
"O'n i'n cadw'n dawel amdano fe. Dyna'r broblem," dywedodd clare, sydd ddim yn defnyddio priflythrennau yn ei henw fel artist.
"Dwi'n edrych yn iachus, ond dwi ddim."
Dydy hi ddim yn glir pam fod pobl yn datblygu'r cyflwr, ond mae'r gwasanaeth iechyd, dolen allanol yn dweud bod newidiadau i'r system nerfol a geneteg yn ffactorau posib.
Ychwanegodd clare: "Mae e'n cronig. Mae'r ymennydd yn anfon negeseuon o boen yn y corff.
"Mae gen i arthritis yn y gwddf o ganlyniad i scoliosis, ac ers hynny, mae ffibromyalgia 'di datblygu.
"Fi'n cael lot o boen yn y corff, a blinder. Ti'n teimlo fel bod niwl yn dy feddwl.
"Er enghraifft, ddoe, o'n i'n trio rhoi petrol yn y car a do'n i ddim yn gallu dal y peth, neu os dwi'n coginio, mae troi'r llwy yn anodd."
'Dechre'r sgwrs a herio'r stigma'
Mae clare yn teimlo ei bod yn gallu mynegi ei hun yn well drwy ysgrifennu.
"Os ti'n ysgrifennu, mae 'na egni yna, a ni'n gallu cefnogi ein gilydd," ychwanegodd.
"Ma' fe 'di helpu fi'n barod i fod yn y llyfr, gyda'r menywod yma. Mae'n dechre'r sgwrs a herio'r stigma."

Y Prifardd Gwyneth Lewis wnaeth olygu'r gyfrol gyda Hanan Issa
Dydd Mawrth fe ddaeth rhai o'r beirdd ynghyd mewn digwyddiad i lansio'r gyfrol yn y Senedd.
Syniad Hanan Issa - Bardd Cenedlaethol Cymru - oedd y cyfan, gyda'r Prifardd Gwyneth Lewis yn ymuno â hi i olygu'r gyfrol.
Mae Gwyneth yn byw â meigryn cronig, a dywedodd fod hyn yn rhan o "ymgyrch" i godi llais menywod, yn enwedig er mwyn i'r byd meddygol glywed.
"Fe ges i brofiad ddigon anodd gyda niwrolegydd," dywedodd.
"O'n i mewn gymaint o boen am gyhyd, o'n i'n teimlo bo' fi moyn lladd fy hunan. A ffonio, gadael i'r niwrolegydd w'bod, ond glywes i byth 'nôl."
'Ni'n gyfarwydd iawn â brwydro'
Dywedodd Gwyneth iddi gael triniaeth dda ers hynny, ond bod nifer o'r beirdd wedi wynebu rhwystrau o fewn y byd meddygol.
"Ma' meddygon, ambell waith, yn gallu bod yn fyddar i hyn," ychwanegodd.
"Ry'n ni'n gyfarwydd iawn â brwydro.
"Felly ma' hyn yn rhan o'r ymdrech, nid yn unig i ffeindio'n hunain, a bobl tu allan o'r byd llenyddol, ond bo' ni'n ymgyrchu i newid y driniaeth i gyflyrau cronig."

Mae'r gyfrol ar werth mewn siopau ac mae copïau wedi eu rhannu â rhai lleoliadau meddygol
Dywedodd Dr Helen Munro, arweinydd clinigol iechyd menywod yng Nghymru, fod barddoniaeth yn ffordd bwerus o gyfleu profiadau merched.
"Mae hi mor bwysig ein bod ni'n gwrando ar fenywod wrth lunio polisïau," dywedodd.
"Dyna sydd wrth galon ein cynllun iechyd menywod.
"Fel rhwydwaith, ry'n ni eisiau clywed y lleisiau hyn. Mae'n dod â chyfle i siapio ymwybyddiaeth... a dealltwriaeth o gyflyrau cronig."
'Mor bwysig i bobl ddeall mwy'
Ychwanegodd Claire Furlong, cyd-brif weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae beirdd mor fedrus, yn distyllu teimladau enfawr, syniadau efnawr, mewn ychydig o eiriau yn berffaith.
"Dwi'n siwr bydd unrhyw un sy'n darllen y cerddi hyn yn teimlo eu bod yn cael eu gweld.
"Mae mor bwysig i bobl ddeall mwy."
Os ydy cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.