Dedfrydu dyn o Gasnewydd i bum mlynedd yn y carchar am gefnogi ISIS

Shazad AliFfynhonnell y llun, Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 21 oed o ardal Casnewydd wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am gefnogi'r sefydliad gwaharddedig, ISIS.

Cafodd Shazad Ali ei ddedfrydu yn Llys y Goron Bryste ddydd Gwener ar ôl pledio'n euog i nifer o droseddau o derfysgaeth.

Dywedodd yr heddlu iddo rannu cynnwys eithafol ar-lein a bod ganddo gasgliad o gyhoeddiadau terfysgol ar ddyfeisiau digidol.

Dywedodd swyddogion fod Ali yn cynrychioli "bygythiad clir a pheryglus iawn" i'r cyhoedd.

Cafodd Shazad Ali ei euogfarnu ar 5 Medi wedi iddo bledio'n euog i gefnogi'r sefydliad gwaharddedig ISIS.

Cafodd hefyd ei ddyfarnu'n euog o ddau gyhuddiad o annog terfysgaeth.

Roedd trydydd cyhuddiad yn ymwneud â meddu ar ddogfennau a allai fod yn ddefnyddiol i derfysgwr.

Cafodd Ali ei arestio ym mis Ionawr 2025.

Yn ystod archwiliad o'i gartref, daeth swyddogion o hyd i ddyfeisiau digidol oedd yn cynnwys nifer o gyhoeddiadau terfysgol.

Dywedodd yr heddlu ei fod hefyd wedi rhannu nifer o fideos Islamaidd eithafol ar-lein.

Cafodd Ali ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar a chyfnod ychwanegol o ddwy flynedd ar drwydded estynedig.

Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Leanne Williams o Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru fod yr achos yn dilyn ymchwiliad hir.

"Roedd Shazad Ali yn cynrychioli bygythiad clir iawn, a pheryglus iawn i'r cyhoedd," meddai.

Ychwanegodd mai blaenoriaeth yr heddlu oedd "sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn rhagddo" a'r neges eithafol roedd yn ei hyrwyddo.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.