'Mynd amdani' gyda'r cynlluniau i adfywio Porthcawl

Porthcawl
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun sydd wedi'i ddatgelu i'r cyhoedd gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig newid sylweddol i'r hyn sydd yno'n barod

  • Cyhoeddwyd

Mae angen bwrw ymlaen gyda chynlluniau i drawsnewid ardal glan môr Porthcawl, yn ôl maer y dref.

Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn ymgynghori ar y cynlluniau sy'n cynnwys codi cartrefi ar hen safle ffair adnabyddus Traeth Coney a phwll lido newydd i'r dref.

Ond mae rhai yn poeni am y sefyllfa parcio, ac am effaith yr adfywio ar weddill y dref.

Mae'r cynllun sydd wedi'i ddatgelu i'r cyhoedd gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig newid sylweddol i'r hyn sydd yno'n barod - y bwriad yw adfywio y dref glan môr sydd wedi gweld dyddiau gwell.

Delyth Webb, Rheolwr Adfywio Strategol Cyngor Sir Pen-y-bont
Disgrifiad o’r llun,

"Mae cyflwr yr adeiladau wedi dirywio dros y blynyddoedd," medd Delyth Webb, Rheolwr Adfywio Strategol Cyngor Sir Pen-y-bont

Gyda ffair adnabyddus Traeth Coney bellach wedi cau, mae angen rhoi bywyd newydd i'r safle, ac mae'r buddsoddiad werth miliynau o bunnoedd yn ôl yr awdurdod.

"Mae cyflwr yr adeiladau wedi dirywio dros y blynyddoedd," medd Delyth Webb, Rheolwr Adfywio Strategol Cyngor Sir Pen-y-bont.

"Mae 'na nifer o adeiladau mawr yma sydd wedi adfeilio, ac mae angen pwmpio llawer o arian mewn i'r ardal. Mae'r teulu sydd wedi bod yn berchen ar y ffair am flynyddoedd, dy'n nhw ddim eisiau rhedeg ffair rhagor.

"Dyw'r adnodd yna ddim yn cael ei ddefnyddio yn yr un ffordd ag oedd e, felly mae angen newid."

Rory Pitman
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rory Pitman, perchennog busnes, yn credu bod y cynlluniau newydd yn arbennig

I fusnes bwyd a maeth A-Head of the Game, sydd eisoes wedi agor safle ym Mhorthcawl, mae'r cynlluniau'n gyfle i ddenu rhagor o bobl i'r dref.

Yn ôl perchennog y cwmni, Rory Pitman, mae angen bwrw ymlaen gyda'r cynlluniau adfywio.

"Ni angen datblygu, ni angen dod â mwy o bethau yma er mwyn i bobl allu gweld ar social media... iddyn nhw wario eu harian mewn lle fel Porthcawl, ni angen datblygu e, a dwi'n credu bod y cynlluniau yma yn arbennig."

Elen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hen bryd i'r cynlluniau weld golau dydd, medd y maer Elen Jones

Mae'r cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi a'u hailgyhoeddi dros y blynyddoedd wrth i Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ymgynghori a gofyn barn pobl leol.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn cynnwys Lido newydd i'r dref - hynny yn dilyn ymateb y cyhoedd.

Fe fydd ffair adnabyddus Traeth Coney, sydd wedi cynnig croeso i nifer o dripiau Ysgol Sul dros y blynyddoedd, yn diflannu wedi iddi gau yn gynharach eleni.

Y bwriad yw trawsnewid y lleoliad hwnnw'n gyfuniad o ardal hamdden, adnoddau i fusnesau ac ardal i godi cartrefi.

Ond wedi blynyddoedd o addewidion a chyfaddawdu, mae maer Porthcawl, Elen Jones, yn credu ei bod hi'n hen bryd i'r cynlluniau yma weld golau dydd.

"Mae pobol o'r Rhyl a'r Barri yn dweud 'pam na gewn ni beth mae Porthcawl yn ei gael ond mae angen i ni nawr sicrhau bod hyn yn digwydd, ac mae pobl yn gofyn pryd.

"Maen nhw eisiau mynd amdani ac wedi aros digon, ac mae'r amser yma nawr i Borthcawl fynd am y goleuni."

Mae'r dyluniadau yn rhai sy'n dal y llygad, ond i rai fel Richard Cleaves sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac oedd mewn sesiwn ymgynghori ym Mhorthcawl yn ddiweddar, mae yna bryderon gan gynnwys darpariaeth parcio.

"Ar hyn o bryd mae'r ffordd trwy'r dre yn llawn dop o ran parcio. Dyw'r siopau ddim ar gau, mae'n fywiog trwy'r flwyddyn, ac mae pobl yn dod i mewn i'r dref.

"Os na fydden nhw'n gallu parcio a fydden nhw'n dal i ddod? Mae'r cyngor wedi cynllunio nifer o siopau newydd ar y promenâd, ond a fydd siopau jyst yn symud o un lle i'r llall?"

Ar hyn o bryd mae'r cynlluniau yn y cyfnod ymgynghori cyn i gais cynllunio gael ei gynnig i'r Cyngor Sir.

I sawl un mae Porthcawl yn dod ag atgofion melys o ddyddiau braf ar un o draethau poblogaidd de Cymru - cynnig yr un profiad dros y degawdau nesa yw her nesaf.

Pynciau cysylltiedig