 |  | Mordaith i Alaska Y gyntaf o dair erthygl gan Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, am ei fordaith i Alaska
|
Yr ail erthygl: Strydoedd Skagaway
Y drydedd erthygl: Rhew a golau coch. Diwedd y daith
Yn ôl y gwybodusion, y Fordaith i Alaska yw'r fordaith fwyaf poblogaidd yn y byd . Mae'n apelio at bob cenedl dan yr haul gan gynnwys y Cymry wrth gwrs.
Dros y blynyddoedd, 'rwyf wedi cwrdd a chlywed am nifer o drigolion yr Hen Wlad sydd wedi hel eu pac a'i gwadnu hi am Alaska i lwyr ymgolli ym moethusrwydd llongau Holland America, Princess, a Norwegian.
Mi wnes y trip flwyddyn yn ôl yn 2001 ond mae arnaf gywilydd dweud fy mod wedi disgwyl cyhyd, a minnau wedi byw am flynyddoedd rhyw dafliad carreg o Vancouver a Canada Place - cyrchfan y llongau mawr i Alaska.
Dyma fraslun o'm siwrna, gan obeithio y bydd yr antur yn codi awch arnoch .
 Dydd Llun Mai 14 Gadael Vancouver a Canada Place brynhawn Llun a hwylio dan Bont y Lion's Gate a chyfeirio tuag at yr Inside Passage.
Dydd Mawrth Mai 15 Hwylio heibio Port Hardy ar Ogledd Ynys Vancouver i'r Queen Charlotte Sound a heibio Ynysoedd Queen Charlotte i'r gorllewin, a Prince Rupert ar y tir mawr i'r dwyrain.
Erbyn hyn, wedi cael blas ar y bwyd moethus a'r gwasanaeth dihafal, yn ogystal â darganfod ein ffordd o gwmpas y Volendam. Yn hwyr y prynhawn ac ar ol swper, cerdded dair gwaith o gwmpas dec 3.
Hyn yn gyfartal a milltir ar y tir. Digon oer oedd hi, a diolch am ein cotia gaeaf a singlet wlan gynnes!
Dydd Mercher Mai 16 Cyrraedd Juneau, Alaska. Erbyn hyn 'rydym wedi teithio 780 nm (nautical miles) o Vancouver. Y tymheredd yn 48F/ 9C ond yn heulog.
Croeso i Juneau. Ym 1880 darganfuwyd aur yn y Silver Bow Basin gan Joe Juneau a Richard Harris. O ganlyniad, daeth Juneau , prifddinas Alaska i fodolaeth.
Aur oedd prif gynhaliaeth Juneau tan 1944, pryd y cauwyd y Treadwell - y gloddfa aur enwog. Gwnaeth nifer o bobl eu ffortiwn yn y "gold rush" ond ni fu Juneau na Harris mor ffodus .
Bu farw Juneau mewn cyflwr anghenus yn yr Yukon yng Nghanada a gorfu cael casgliad i brynu arch iddo a'i gludo adref i'w gladdu yn Juneau.
Nid oes ffordd yn arwain i mewn nac allan o Juneau. Popeth yn dibynnu ar un ai long neu awyren. Mae'r dref o 30,000 o bobl yn cysgodi rhwng dau fynydd - Mount Juneau a Mount Roberts. Y ddau yn uwch na'r Wyddfa.
Heddiw, ymweld â'r Mendenhall Glacier; rhai ohonom mewn bws a rhai mewn helicoptyr. Gwangalon ydym ni'n dau ac mi ddewisom y bws.
Mae Rhewlif Mendenhall yn rhyfeddod naturiol. Yn afon o rew deuddeng milltir o hyd a milltir a hanner o led . Cawsom dipyn o drafferth felly i reoli ein hunain rhag dweud dewcs!!
Yn y prynhawn, ymweld â Phrifysgol De Alaska ac yna taith o gwmpas Deorfa Bysgod y tu allan i'r dref. Cawsom dipyn o samwn Alaska i'w flasu . Yna, ymweld a'r Red Dog Saloon; lle gwyllt iawn gyda merched drwg a dynion croeslygeitiog.
Blawd llif ar y llawr fel y gall pobl boeri nerth esgyrn eu pen.
Yr atyniad i ni oedd gweld llawddryll Wyatt Earp mewn blwch gwydr uwchben y bar. Y ddeddf pryd hynny oedd gadael arfau yng ngofal y sheriff. Ni ddychwelodd Earp i Juneau i nôl ei wn.
Cred rhai iddo ymadael am Seattle. Nid arhosom ninnau chwaith, am beint!
Cerfddelw Patsy Ann. Bull terrier byddar a mud oedd Patsy Ann yn byw yn Juneau yn 1930au.
Pan gyrhaeddau llongau stêm borthladd Juneau, byddai Patsy yn ymwybodol o hyn a rhuthrai allan i'w croesawu, ac ymborthi ar sgraps a roddai'r ymwelwyr iddi.
Bu farw Patsy yn 1942 ac mi gafodd gynhebrwng mawreddog.
Daeth tyrfa fawr ynghyd i weld ei harch yn ymollwng yn dyner i'r Gastineau Channel. Heddiw, mae cerfddelw pres o Patsy Ann ar lwythfa Marine Park i groesawu pawb sydd yn ymweld a Juneau, Alaska.
Mwy i ddod - edrychwch eto yr wythnos nesaf - daliwch eich gafael
Yr ail erthygl Y drydedd erthygl

|
 |