bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y gofeb bresennol yn Llandrillo-yn-RhosCeisio cerflun i Madog
Teyrnged i arwr stori sy'n haeddu bod yn wir

Mae cymdeithas a sefydlwyd i ymchwilio i chwedl Madog a darganfyddiad yr America gam bychan yn nes at gael coffâd o bwys i'r tywysog o Gymro.

Mewn cyfarfod yn Llandrillo-yn-Rhos, Ionawr 27, 2007, cafodd Cymdeithas Ymchwil Ryngwladol Madoc (MIRA) gefnogaeth unfryd cynghorwyr lleol i godi cerflun yno ger glan y môr.

Yn ôl y chwedl, o borthladd Llandrillo ger Bae Colwyn yr hwyliodd y Tywysog Madog tua'r gorllewin yn 1170 a glanio maes o law ar arfordir America - a hynny dros dri chan mlynedd cyn Columbus.

Ac yn ôl y chwedl dychwelodd Madog i Gymru a hwylio unwaith eto - o Ynys Wair (Lundy) yn y de y tro hwn - gan fynd a mwy o bobl gydag ef i boblogi'r tir newydd a nwyddau ar gyfer y rhai aeth gydag ef ar y fordaith gyntaf.

Arwyddlun Madoc1170Mae MIRA cyn baroted â neb i gydnabod nad oes prawf hanesyddol i hyn ddigwydd o gwbl a dyna'r rheswm pam y sefydlwyd y gymdeithas - er mwyn dod o hyd i brawf a throi chwedl yn ffaith hanesyddol.

"Dydym ni ddim yn gwybod ydi hi'n stori wir ond mae'n stori sy'n haeddu bod yn wir ac fe fyddem ni'n hoffi medru profi hynny," meddai Allyn Rees, cadeirydd MIRA wrth y cyfarfod.

Ar sail y ffaith fod hon yn chwedl mor gyfarwydd i'r Cymry cefnogodd y cyfarfod yn unfryd y syniad o gael cerflun i'w nodi gyda nifer o gynghorwyr lleol, gan gynnwys y Cynghorydd Brian Cossey, Maer Bae Colwyn, yn addo eu cefnogaeth frwd mewn egwyddor. Byddant yn awr yn hyrwyddo'r achos yn lleol.

Eisoes mae llechen yn tynnu sylw at fordaith Madog o fewn libart tŷ preifat ger y prom yn Llandrillo-yn-Rhos ond gobaith MIRA a'i gefnogwyr yw codi rhywbeth llawer iawn mwy uchelgeisiol na hynny.

Eisoes mae rhai a fu'n gysylltiedig â chodi cerflun i Gatrin merch Owain Glyndŵr yn Llundain, Medi 2001, wedi addo cynnig syniadau ar gyfer cyfarfod nesaf MIRA yn Llandrillo fis Mai.

Mab Owain Gwynedd
Yn ôl y chwedl un o feibion Owain Gwynedd oedd Madog a chyhoeddwyd sawl llyfr am ei fordaith honedig i'r America gydag un yr Athro Gwyn A Williams, Trefenter, yr un awdurdodol.

Yn fras, y ddamcaniaeth yw iddo ef a'i gymdeithion lanio rywle oddi ar arfordir Gwlff Mecsico ac wedyn ymsefydlu yn Georgia, Tennessee a Kentucky gan symud i fyny'r Missouri lle dywedir iddyn nhw ymgyfeillachu a chriw o Indiaid o genedl y Mandaniaid.

Esgorodd hyn ar chwedl arall am lwyth o frodorion Americanaidd a siaradai Gymraeg a'r chwedl honno yn pesgi ar y ffaith fod ceyrydd tebyg i rai a welir yng ngogledd Cymru yn nyffryn Tennessee; y ffaith fod y Mandaniaid yn defnyddio cychod yr un siap a chwryglau a bod rhai geiriau tebyg i eiriau Cymraeg yn eu hiaith.



Howard KimberleyYn y ddeunawfed ganrif mentrodd John Evans o'r Waunfawr i'r America i geisio dod o hyd i'r gwir ond er na ddaeth o hyd i 'Indiaid Cymraeg' gwnaeth waith gwerthfawr yn mapio am y tro cyntaf y rhan hon o ogledd America ac y mae lle hanfodol iddo ef yn ymchwiliadau MIRA.

"Mae nifer o bobl y ddwy ochr i'r Iwerydd wedi bod yn ymchwilio'r stori dros y blynyddoedd," meddai Howard Kimberley o Faesteg, yr arian byw y tu ôl i MIRA, sydd wedi sefydlu gwefan helaeth 'Madoc1170' i hyrwyddo ymchwil pellach.

"Mae pwnc fel hwn yn siwr o fod â'i amheuwyr a'r hyn yr ydw i'n ei obeithio yw y bydd y wefan yn fodd i gyflwyno dwy ochr y ddadl," meddai.

Mae'n gobeithio hefyd y gellir dod o hyd i arian maes o law i gasglu tystiolaeth enetig. Yn y cyfamser mae'n parhau a'i ymchwil ei hun i'r hanes.





cysylltiadau
  • Gwefan Madoc1170

  • Cofeb Catrin Glyndwr

  • ewrop

    Unol Daleithiau America
    Barddoniaeth mewn maen a phren

    Dathlu yng Nghwm Jones!.

    Aloah Hawaii

    Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

    Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

    Cofio Goronwy ymhell o gartref

    Etholiad America

    Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

    Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

    Cymraes yn Chicago

    Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

    Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

    Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

    Côr sy'n uno cyfandir

    Neges Gŵyl Dewi Bush!

    'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

    Cynghrair Gymraeg Arizona

    Ymlacio a dysgu termau newydd

    Ar yr hewl yn America

    Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

    Etholiad Arlywyddol 2004




    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy