Dyma farn Roy Kranz golygydd papur newydd cymunedol Glue yn Boston, America.
"Y tu allan i hype y cyrfryngau mae llawer ohonom yn credu bod y digwyddiadau diweddar yn wych."
" Y tro cyntaf ers blynyddoedd mae LLAWER o'r boblogaeth yn cymryd sylw o'r broses etholiadol. Mae'r sustem yn awr dan chwyddwydr."
"Mae miliynnau o bobl a oedd cynt yn anwybyddu'r etholiad yn cymrryd sylw yn awr. Mae plant ein hysgolion hefyd yn dysgu sut mae'r llywodraeth yn gweithio."
"Dyma yw'r rhan orau o sustem ddemocrataidd. Meddyliwch am y peth. Mae arlywydd a llywodraeth gyda ni o hyd. Does na ddim tanciau milwrol yn rhedeg drwy'r strydoedd. Y cwbl sydd ei angen yw ychydig mwy o amser i ni sortio petha allan."
"Be sy'n bod ar hynny?"

|