bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


GarethProfiad Cymro ym
Marathon Boston

Gareth John Morgan yn sôn sut y bu'n dilyn yn ôl troed Lance Armstrong

Ar ôl rhoi rhedeg llond llaw o farathons dros y blynyddoedd, roedd yn rhaid rhoi cynnig ar redeg marathon enwog Boston.

Mae Marathon Boston yn cael ei hystyried yn Fecca rhyngwladol i redwyr pellter hir a thros y ganrif diwethaf teithiodd rhai o arwyr y gamp i ddinas hanesyddol Boston yng ngogledd ddwyrain yr Unol Daleithiau er mwyn ceisio ymuno â'r clwb anfarwol o enillwyr.

Digwyddiad mawr
Ers y ras gyntaf gyda 18 o redwyr yn 1897 mae Marathon Boston erbyn heddiw yn un o'r digwyddiadau amlycaf ar y calendr rhedeg rhyngwladol.

Mae'r ras yn cael ei chyfyngu i 25,000 o redwyr sy'n cadw'r elfen exclusive ac i fod yn ddigon ffodus o gael lle mae'n rhaid i ddynion gael amser gwell na 3 awr 10 munud (3:40 i ferched) ac fe all rhedwr edrych ymlaen at gwrs mynyddig a thor calon yr enwog Heartbreak Hil - gallt hir a serth wedi'i lleoli'n greulon ar ôl yr ugeinfed filltir o'r 26.2.

Fel un o'r marathons pwysicaf - ac yn rhan o gyfres y Marathon Majors - mae'r ras yn denu torfeydd sylweddol a miliynau o ddoleri gan noddwyr.

Er mwyn manteisio ar y diddordeb, mae'r marathons mawr i gyd wedi dechrau ceisio denu cymaint o selebs â phosib i redeg - a doedd Boston ddim gwahanol.

Seren felen
Y seren amlwg y flwyddyn hon oedd Lance Armstrong, un o wynebau amlycaf y byd chwaraeon wedi iddo ennill y Tour de France saith gwaith yn olynol rhwng 1999 a 2005.

Yn dilyn ei ymddeoliad yn 2005, trodd ei ymdrechion tuag ag sefydlu elusen o'r enw LiveStrong i daclo canser ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith ei elusen - ac er mwyn "cadw'n heini" - penderfynodd ddechrau rhedeg marathons.

Lance ArmstrongWedi iddo redeg amser o dan dair awr ym Marathon Efrog Newydd y llynedd roeddwn yn gwybod y byddwn yn rhedeg ar gyflymder tebyg i Armstrong ac fel oriawr, pwy weles i - wedi'i amgylchynu gan ei entourage o chwe rhedwr proffesiynol - ar ôl tua 4 milltir ond yr hen Lance.

Wrth redeg heibio'r dyn i hun, ni allwn beidio â dweud helo bach. Trodd yntau gydag edrychiad digon haearnaidd oedd gyfystyr â dweud, "Cawn weld."

Talu'r pris
A do, bu'n rhaid imi dalu am fy mrwdfrydedd cynnar. Ar ôl arafu ar y gelltydd rhwng milltiroedd 18 a 20, roeddwn yn ymwybodol fod yr anochel ar ddigwydd wrth i'r bloeddio "Go Lance" ddod yn uwch ac yn uwch o'r tu cefn imi.

Wrth iddo garlamu heibio efo'i gang, llwyddais i hongian y tu ôl i'r enwog maillot jaune - y crys melyn - am filltir neu ddwy.

Ond wrth i'r gelltydd fynd yn fwy serth a'r coesau'n drymach, diflannodd y crys melyn ynghyd a fy nghyfle i frolio am flynyddoedd i ddod am yr tro y curais Lance.

Gorffennodd Armstrong mewn 2 awr 50 munud ac yn safle 496 - a minnau mewn 2 awr 54 munud ac yn 705. Malwoden o gymharu â'r enillydd, Robert Cheruiyot o Kenya, a orffennodd mewn 2 awr 7 munud wrth ennill y ras am y pedwerydd tro.


Croesi'r llinellYn syml, y bryniau niferus sy'n gwneud y ras hon yn gymaint o her. Mae rhedeg milltir gyfan i fyny gallt ac wedyn y filltir nesaf ar i lawr yn troi'r coesau yn bren - yn enwedig ar ôl 20 milltir.

Cysurais fy hun hefyd fod Armstrong wedi cael hen brofiad o ddringo mynyddoedd - er mai ar feic yr oedd hynny.

Llawenydd a phoen
Mae gorffen marathon yn gyfuniad o'r poen gwaethaf a llawenydd pur. Wrth i'r boen a'r adrenalin gilio - ac ar ôl dweud, "Byth eto" ar y linell derfyn mae rhan arall o'r pen yn gofyn, "Pa farathon nesaf?"
Dyma wallgofrwydd rhedeg marathon.

Wrth glywed bod Armstrong yn bwriadu rhedeg Marathon Efrog Newydd unwaith eto eleni, pa well ras - a hithau'n un fwy gwastad - i roi cais arall ar herio'r pencampwr arbennig hwn?





cysylltiadau
  • Marathon Boston - gwefan Saesneg

  • Livestrong - gwefan Saesneg

  • ewrop

    Unol Daleithiau America
    Barddoniaeth mewn maen a phren

    Dathlu yng Nghwm Jones!.

    Aloah Hawaii

    Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

    Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

    Cofio Goronwy ymhell o gartref

    Etholiad America

    Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

    Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

    Cymraes yn Chicago

    Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

    Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

    Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

    Côr sy'n uno cyfandir

    Neges Gŵyl Dewi Bush!

    'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

    Cynghrair Gymraeg Arizona

    Ymlacio a dysgu termau newydd

    Ar yr hewl yn America

    Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

    Etholiad Arlywyddol 2004




    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy