Cysylltiadau gwe ar ddiwedd yr erthygl
Bydd Côr Cymry Gogledd America ar daith yng Nghymru yn ystod Gorffennaf gan berfformio am y tro cyntaf erioed yng Nghymru yn Nhyddewi, nos Wener, Gorffennaf 5.
Yn dilyn hyn bydd perfformiadau yn: - Eglwys Gadeiriol Llanelwy nos Sul, Gorffennaf 7 - Eglwys yr Atgyfodiad Trelái, Caerdydd nos Fercher y 10fed. . - Gyda Chôr y Traeth ym Miwmares Gorffennaf 8 - Blaenau Ffestiniog yn y prynhawn, Gorffennaf 6.
Côr Cymuned yw Côr Cymry Gogledd America, sy'n ymestyn ar draws cyfandir cyfan. Bydd 76 o gantorion ar daith yng Nghymru gan gynrychioli 16 o daleithiau UDA a thair talaith yng Nghanada.
Arweinydd o Lanelli Ganwyd Mari Morgan, arweinydd y Côr, yn Llanelli a derbyniodd ei haddysg gerddorol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd, lle y graddiodd gydag anrhydedd, ac yng Ngholeg Cerdd y Drindod yn Llundain.
Cynnwys rhestr perfformiad y Côr nifer o weithiau sy'n hollol newydd i Gymru, sef 'Lifting the Sky' gan Victor Davies (geiriau gan Carolyn Maddux), Preiddiau'r Cymry' gan David Evan Thomas a Menna Elfyn, Cylch y Cyfaredd' gan Richard Lind a Menna Elfyn; a threfniadau'r emyn dôn 'Rhys' (Rho i'm yr hedd') gan Richard Lind, a Carol y Blwch' gan Keith Davies Jones.
Hefyd, bydd y Côr yn perfformio nifer o ganeuon sy'n adnabyddus iawn i'r Cymry oll - fel darnau o waith Caradog Roberts, T Hopkin Evans, Dilys Elwyn-Edwards, Robat Arwyn, Emyr James, Delyth Rees ac eraill.
Yn 1998, casglwyd 120 o gantorion dros chwe thalaith ar hugain yr Amerig a thair talaith yng Nghanada, drwy weledigaeth Mari Morgan, a fu'n gyfrifol am sefydlu'r Côr.
Diolch i'r rhyngrwyd Gwnaeth hyn ar ôl sylweddoli fod llawer o Gymry ar hyd a lled Gogledd America yn awyddus i gyfranogi o gerddoriaeth gorawl Gymraeg ar lefel uchel.
Llwyddwyd i uno trwy gyfrwng y rhyngrwyd bobl sy'n byw filoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd gyda'r aelodau'n cyfnewid cannoedd o lythyrau e-bost. Cyhoeddir amserlenni ymarferiadau a chylchlythyr y Côr ar ei wefan.
Yn ogystal, bu'r we hefyd yn gyfleus i gynorthwyo ein cantorion i ddysgu geiriau a cherddoriaeth drwy ddefnyddio'r dechnoleg i rannu tapiau-sain.
Yn ystod y deunaw mis cyntaf, bu Mari yn brysur iawn groes ynghroes y Cyfandir yn arwain mwy na thri deg o ymarferiadau lleol, mewn dinasoedd ledled yr America.
Cyfarfod mewn Cymanfa Ym mis Medi 1998, casglwyd dros 70 o gantorion i ymarfer drwy'r dydd yn ystod y Gymanfa Ganu Genedlaethol yng Ngholumbus, Ohio, lle cyflwynwyd y gwaith comisiwn gorffenedig cyntaf y Côr, gosodiad cyffrous o Salm 104 (Up, O my Soul) gan Hilary Tann.
Ar ôl wythnos o ymarferiadau dyfal, perfformiodd y Côr am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig ym Minneapolis ar Fedi 4 1999.
Bu'r Côr ar y llwyfan yn eu blaen berfformiad yn yr Eglwys Lwtheraidd Ganolog fel prif atyniad y 68fed Gymanfa Ganu Genedlaethol ac ers hynny aeth o nerth i nerth gan ymroi i gyrraedd y safon gerddorol uchaf ac i berfformio yn y Gymraeg gan fwyaf.
Cyfansoddwyr blaenllaw Yn ogystal â darnau traddodiadol a chyfoes mae'n comisiynu gweithiau gan gyfansoddwyr blaenllaw o blith y Cymry-Americanaidd gan ganolbwyntio ar raglenni bywiog, cyffrous, wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn ein hetifeddiaeth Gymreig, ond sydd ar yr un pryd yn cynrychioli profiad unigryw Ogledd-Americanaidd.
Mae'n hen bryd i'r ddathliad o Gymreictod yng Ngogledd America beidio a bod yn un unig a hiraethlon. Mae'r amserau wedi newid yng Nghymru ac mae'n bryd inni ddathlu ein dawn greadigol - y ddawn y gwelsom eisoes dystiolaeth ohoni.
Aeth heibio'r blynyddoedd o alltudiaeth ac yn wir mwynhewn y profiad o ddod adre. gan Keith Davies Jones Winnipeg Canada
- Gwefan y côr - Mari Morgan oedd Arweinydd y Cymry Tramor yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Dyma oedd ganddi i'w ddweud

|