 |  | Ar yr hewl yn America
Cyrraedd adref -a hiraethu am yr Unol Daleithiau
Dydd Mercher, Tachwedd 25, 2001 |
Treuliodd Kate Jones o Grughywel gyfnod yn America yn gweithio mewn gwersyll i blant. Dyma'r olaf o'i herthyglau yn son am y profiad hwnnw
Mynd am Dro "I have just returned from Boston, it is the only sane thing to do if you find yourself up there." Fred Allen (1894-1957) Digrifwr ar Radio America
 Y ddinas fawr dda Ar ddiwedd yr haf dyma pawb o'r gwersyll yn gwasgaru a theithiais innau i lawr i Boston - sy'n ddinas wych - i aros am bythefnos cyn teithio o gwmpas taleithiau New England.
Am fod llawer o'r genod yn dod o Boston a'r cyrion roedd hi'n bosib gwersylla am ddim yng gardd sawl un.
Cheers! Roedd yn rhaid gwneud y pethau twristaidd fel ymweld a Harvard, wrth reswm ac mi es i ar daith i weld morfilod yn yr Atlantig - uchelgais arall wedi'i chyflawni yr haf 'ma, ond un yr hoffwn i hail-wneud yn y dyfodol am gyfnod hirach ac heb domen o bobl ddi-glem ar yr un cwch.
Do, wrth gwrs, mi gefais i gwrw yn Cheers, neu'r bar bendigedig sy'n seiliedig ar y gyfres. Cefais fy mlas cyntaf o gwrw enwog Boston - sy'n andros o neis - o'r enw Samuel Adams.
Mi fuaswn i wedi bod ofn teithio o gwmpas yr Unol Daleithiau ar fy mhen fy hun bach cyn yr haf ond erbyn y diwedd roeddwn i'n deall y wlad yn llawer gwell ac yn gwybod y llefydd i'w hosgoi.
Mae 'na rywbeth reit braf mewn crwydro o gwmpas dinas anghyfarwydd a gwylio pobl. Yn sicr ceir argraff llawer gwell o naws y lle a'r brodorion.
Mi fum yn morio Ar ôl llogi car aeth ffrind a fi i lawr i Cape Cod a dal llong draw i Martha's Vineyard.
Yn Edgartown, tre fach ar ochr ddwyreiniol yr ynys, y gwnaethon nhw ffilmio Jaws.
Mae'r ynys yn enwog am fod yn lle gwyliau i bobl gyfoethog, er enghraifft, y Kennedys ac y mae'r traethau gorau i gyd yn breifat a'r trefi yn llawn twristiaid, fel ninnau, oedd newydd ddod oddi ar y llong.
Llogi beic, yn bendant, yw'r ffordd orau o weld yr ynys a dianc rhag y lluoedd.
Carry on Camping Gwersylla yn fy mhabell oedd yr unig ateb ar ôl cost y car. Mae parciau cenedlaethol ym mhob talaith a'r rheini'n cynnig llety rhad a chyfleus.
Mae lle am un noson yn costio tua $12 (£8).
Roeddwn i'n arfer casáu gwersylla ar ôl llawer gormod o brofiadau erchyll mewn cae ar benrhyn Gwyr ac wedyn bob Steddfod.
I sawl un mae gwersylla'n gysylltiedig â glaw a stormydd ond does dim rhaid iddi fod felly.
Yn y parciau cenedlaethol maen nhw yng nghanol coed trwchus, nid ar gae sy'n debycach i gors. Mae lle tân ac mae'r cymdogion agosaf, os medrwch chi eu gweld drwy'r coed, tua ganner canllath i ffwrdd.
Chwaraeon Bu cyfle i weld gêm pêl-droed Americanaidd (NFL), gyda'r New England Patriots yn chwarae yn erbyn y Washington Redskins. Mae mynd i weld gêm yn fwy o beth i Americaniaid sy'n llwytho pob dim bosib i dryc neu RV (carafan lonydd ar olwynion) ac yn y meysydd parcio mae pawb yn paratoi barbeciws ac yn cael hwyl.
Mae cysylltiad mor gryf rhwng barbeciws a'r NFL fel bod un o sylwebwyr enwocaf y gêm yn farbeciwiwr o fri ac wedi sgwennu sawl llyfr ar y pwnc.
Mae pawb yn gwylio'r run-up i'r gêm ar y teledu wrth fwyta stêcs anferth. Mae'r set patio allan yn ogystal â - choeliwch chi byth - ffrijys trydan llawn cwrw!
Dyma beth yw gwlad waraidd!
Gwlad hufen iâ Vermont oedd nesaf ar y daith a gweld y Mynyddoedd Gwyrddion. Dyma i chi dalaith hardd yn llawn glesni; yn wledig ac yn amaethyddol gyda ffermydd a chaeau yn llawn gwartheg du a gwyn.
Trueni fy mod i'n rhy gynnar yn y flwyddyn i weld lliwiau caleidosgopaidd dail yn yr hydref.
O'r dalaith hon y daw'r cwmni hufen iâ adnabyddus, Ben and Jerry's, sy bron yn gyfystyr a chael popgorn pan aiff rhywun i'r sinema y dyddiau 'ma.
Gyrrais dros Afon Connecticut i New Hampshire eto ac ymweld a Hanover; tref coleg Ivy League, Dartmouth, a chyn gartref Bill Bryson.
Roedd eisiau dringo rhagor o fynyddoedd yn y dalaith cyn dychwelyd y car i Boston felly, yn anffodus, dyna ddiwedd ar y road trip am eleni.
Tua thre Roedd fy nhocyn ar awyren wedi'i archebu a dim pres ar ôl gen i - felly doedd dim amdani ond dal bws i Efrog Newydd a chrwydro o gwmpas Manhattan am sbelen.
Hedfanais o JFK yn ôl i Brydain rhyw dridiau cyn digwyddiadau ofnadwy yr unfed ar ddeg o Fedi.
Ar ôl treulio ychydig o amser yn Normandi rwyf yn awr yn ôl yng Nghymru ac yn colli'r Unol Daleithiau - a'r haf yn fwy na dim.
Rwy'n colli bod y tu allan am ddeunaw awr y dydd, nofio yn y llyn - yn enwedig yn y nos.
Siarad o amgylch tân ac arogleuo mwg yn fy ngwallt ac ar fy nillad, syllu ar y sêr - a gweld seren wib bob nos - a gyrru ar y dde.
Rwy'n colli'n anferthol gwmni'r plant a'm ffrindiau; y cymeriadau diri a'u hegni.

|
 |