bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y llong, Volendam yn SkagwayYm mro Klondike Kate a Diamond Lill
Yr ail o dair erthygl gan Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, yn sôn am ei fordaith i Alaska


Dydd Iau, Mai 17, 2001.
Cyrraedd Skagway. Tymheredd 11C - yn weddol braf. Wyth gant o drigolion sydd yn byw yn Skagway heddiw, ond ym 1897, pan ddarganfuwyd aur yn y Klondike yn yr Yukon, llifodd can mil o bobl drwy Skagway ar eu ffordd i Dawson i wneud eu ffortiwn.


Y ffordd hwylusaf i gyrraedd Dawson oedd dal llong o Seattle i Skagway, ac yna croesi drwy'r White Pass neu'r Chilcoot Pass.

Y Chilcoot oedd y mwyaf peryglus i'w groesi , a'r White Pass oedd yr hawsaf. Ond yn anffodus, pryd hynny mi 'roedd Skagway a'r White Pass yng nghrafangau Jefferson Randolph 'Soapy' Smith a'i griw .

Mae storiau niferus am ddynion yn cael eu hysbeilio a'u llofrudddio gan y dihirod.

Mi 'roedd Rhuthr y Klondike drosodd erbyn 1900 ac yn ei dro, mi ddatblygodd Skagway fel porthladd i'r Yukon.

Ar ein hymweliad a Skagway, mi wnaethom ddau drip. Un yn y bore i ben y White Pass efo'r bws , a galw yn Liarsville ar y ffordd yn ol, a'r llall i'r Red Onion Saloon yn y prynhawn.

Wrth ddringo'r Klondike Highway, gyda'r eira'n drwchus ar ochrau'r ffordd , hawdd dychmygu caledi bywyd yr anturwyr cynnar ar eu ffordd i'r Klondike.

Oer iawn oedd hi ar ben y Pass , gyda mynyddoedd uchel a bygythiol ar bob llaw.

Ar y ffordd yn ôl i Skagway, treuliasom awr ddiddorol yn Liarsville , sef math o wersyll a ddefnyddid gan y chwilwyr aur yn yr 1890 au.



Yr awdur a'r MalemuteYno, cawsom ein croesawu gan glamp o Falemute 170 pwys , ac wedyn pesgi ar fisgedi a seidr poeth. Yna i'r pafiliwn i wrando ar ganeuon y cyfnod ynghyd a barddoniaeth Robert Service.

Torchi ein llewis wedyn a phadellu am aur. Ond dim llawer o lwc mae arnai ofn!

Ardal y Golau Coch.

Yn y prynhawn, cafodd dwsin ohonom ein diddori gan ddwy eneth hudolus. Aethpwyd a ni am dro drwy Ardal y Golau Coch yn Skagway. Clywsom storiau am Klondike Kate , Oregon Mare , Pea Hull Annie a Diamond Lil.

Enghreifftiau anturus a thrist o'r miloedd o ferched a garlamodd yn wyllt i'r Gogledd; i gyd yn dilyn y Madam o'r Red Onion Saloon yn ei gwisg foethus.

A dilyn y ddwy eneth wnaethom ninnau hefyd i'r amgueddfa ar lawr cyntaf y Red Onion Saloon. Yno, cawsom weld stafelloedd gwaith y genethod o oes y Klondike .

'Roedd llawer o eitemau personol wedi eu gadael ar ol ; rhai wedi eu cuddio o dan y llawr , i'w dwyn i olau dydd flynyddoedd wedyn.

Tlodaidd a bychan braidd oedd stafelloedd y merched , ond moethus iawn oedd ystafell y Madam.

A beth feddyliech?
Yng nghongl yr ystafell , yn eistedd yn fud 'roedd organ bedal fechan o waith Roberts o Glyn Ebwy.

Cyn ymadael, fe gawsom ddau wydr o champagne yr un , a garter fach dlos i wisgo , i gofio am ein hymweliad a Skagway.

Y tro nesaf: Rhewlifoedd Glacier Bay. Daliwch eich gafael.

I brif ddalen y daith




[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy