bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhew ac oerni - ym mis MaiRhewlifoedd - a mwy fyth o olau coch!

Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, yn sôn am ei fordaith ef a Linda i Alaska


Dydd Gwener Mai 18, 2001
07.00 Hwylio i mewn i Glacier Bay - 117 o filltiroedd môr o Skagway.

Dros ddau gan mlynedd yn ôl, hwyliodd Capten George Vancouver i chwilio am y North West Passage ond Joseph Whidbey, un o swyddogion Vancouver gafodd y fraint o hwylio i mewn ir bae enfawr a elwir yn Glacier Bay heddiw.

Y cyntaf i'w ddwyn i sylw y cyhoedd oedd George Muir a Hall Young, ac yn 1883 daeth y llong gyntaf yn dwyn ymwelwyr i'r Bae. Ers hynny, mae miloedd wedi teithio i Glacier Bay fel rhan o'u mordaith i Alaska.

Mae'r Bae tua 65 milltir o hyd, ac yn enwog am ei rewlifoedd - eisbergs - mynyddoedd uchel, planhigion a bywyd gwyllt.

Mae'r Bae yn llawn ffiords a chilfachau, gyda phymtheg o rewlifoedd yn chwydu eu boliau iddo.

Cawsom gawod o eira ar ein ffordd i mewn; tawelwch mawr ac yna'r hin yn troi yn oer. 'Roedd wyneb y dwr wedi ei dorlwytho ag eisbergs bychain, rhai gymaint a char modur.

Bu amser i edrych mewn syndod ar y Margerie Glacier a'r Grand Pacific, Y Johns Hopkins a'r Reid Glacier. Rhyfeddol oedd gweld creigiau mawr o eira a rhew yn disgyn o uchder maith ac yn plymio i'r môr islaw.

Clywsom swn fel gwn yn diasbedain i ddechrau ac yna'r clawdd anferth yn disgyn gyda sblash a tharan enfawr!
Wnawn ni byth anghofio hyn.

16.3 Gadael Glacier Bay a throi am Ketchikan.

Dydd Sadwrn, Mai 19,2001,Ketchikan

09:20 wedi docio'n saff yn Ketchikan.
Tywydd: yn stido bwrw.


Mae 14,000 o drigolion yn Ketchikan - Salmon Capital y byd ar un adeg meddan nhw.

Dyma'r dref gyntaf y dewch iddi wrth hwylio i'r Gogledd. Sefydlwyd hi ym 1887 pan adeiladwyd salmon cannerry wrth geg Ketchikan Creek.

Prif gynhaliaeth y dref heddiw yw dal samwn, coedwigaeth a thwristiaeth.

Dyma gartref i dair o'r Cenhedloedd Cyntaf - Tlingit, Haida, aTsimshan, ac ymwelsom a Saxman Totem Park , lle 'r oedd dau grefftwr wrth eu gwaith yn llunio polyn totem o gedrwydd.




Crefftwr totemYna, ymlaen i weld y Libby, Mc Neill and Libby Cannery a adeiladwyd yn 1913ac a fun gweithio tan 1958;ond distaw iawn yw'r lle heddiw .

Cawsom weld tâp fideo yn sôn am fywyd a gwaith yn yr hen ddyddiau ac yna gael dipyn o samwn Ketchikan i'w flasu.

Ar ein ffordd yn ôl i'r dref, galw yn Creek Street - ardal golau coch enwocaf Alaska o 1902 i 1954 ac yn ymffrostio mewn 30 o dai drwg yn ei dydd!

Mae'r gerddedfa wedi ei gwneud o goed ac yn sefyll ar bolion gerllaw'r afon. Gwelsom Dy Dolly lle bu Madam Dolly Copeland Arther yn byw o 1919 tan 1970.

Mae hi'n bwrw bron i dair troedfedd ar ddeg o law yn ystod y flwyddyn yn Ketchikan a hwyrach mai dyma'r rheswm am adloniant drastig Creek Street.

18.22 Gadael Ketchikan am Vancouver ac adref.

Dydd Sul, Mai 20. 2001.

Ar y môr ac yn hwylio i gyfeiriad Ynys Vancouver yng nghwmni llu o borpoises chwareus.

16.30 Teithio drwy'r Seymour Narrows ger Campbell River sydd o ddiddordeb arbennig i ni ac felly yr oeddem yn eistedd am bron i ddwyawr yn y crows nest i fwynhau yr olygfa a dal ein gwynt wrth i'r llong wthio ei ffordd yn ofalus ar hyd un o strydoedd culion yr heli.

Am chwech y nos, mwynhau swper mawreddog yn y Rotterdam Dining Room, a'n cartref yn Comox bach ond milltir i ffwrdd i'r gorllewin!

Os mai pwrpas cruise- mordaith ydi ein bachu a'n denu yn ôl am chwaneg, yna, mae'n rhaid cyfaddef i ni lyncu'r abwyd yn llwyr.
Hwyl a fflag o Ynys Vancouver,
Idris.

I brif ddalen y daith




[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy