 |  | Gerddi gwych Mae'r gogledd orllewin yn enwog am ddrama a phrydferthwch ei thirlun gwyllt ond mae digonedd o erddi lleol i fynd am dro iddynt i fwynhau prydferthwch natur a chwilio am dips garddio. |  |  |
 | Dyma ddetholiad o'r llefydd i fynd am dro a braslun o be sydd ar gael a phryd a sut i fynd yno. Neu gadewch inni wybod am drysorau eraill ymysg gerddi'r fro.
 |  |  |  |
 |  |  |  | Bodnant Cydnabyddir gerddi Bodnant fel un o rai prydferthaf Prydain. |  |  |  |  | Bryn Eisteddfod Arddangosfa o ddulliau garddio dros dair canrif yn Nyffryn Conwy. |  |  |  |  |  |  |  | Carreglwyd Gerddi coediog a llyn yn amgylchynu plasty o'r 17eg Ganrif ym Môn. |  |  |  |  | Castell Gwydir Gardd restredig sy'n gartref i baenod a phlasty Tuduraidd. |  |  |  |  |  |  |  | Castell Penrhyn Golygfeydd hyfryd a gardd Fictoraidd yn y plasty enwog ger Bangor. |  |  |  |  | Y Fach Gerddi ffurfiol ac anffurfiol yn edrych allan dros Fae Llandudno. |  |  |  |  |  |  |  | Gerddi Haulfre Llwybrau a gerddi sy'n rhedeg dros y Gogerth lawr i dref Llandudno. |  |  |  |  | Plas Brondanw Gardd o wahanol 'stafelloedd' wedi'u dylunio gan bensaer Portmeirion. |  |  |  |  |  |  |  | Plas Newydd Gerddi godidog a chartre'r Marcwis ar lannau'r Fenai ym Môn. |  |  |  |  | |  |  |  |  |  |  |  | Plas yn Rhiw Mae hanes difyr i'r gerddi hyn â golygfeydd dros Fae Ceredigion. |  |  |  |  | Portmeirion Gerddi anffurfiol a choetir o amgylch pentref nodedig Portmeirion. |  |  |  |
|
|
|