| Maent yn cynnwys gardd Iseldiraidd gyda wal o'i hamgylch, lle tyfir enghreifftiau hynafol o goed Merwydd (mulberry) a Meryswydd (medlar).
Mae gardd naturiol o'r 18fed Ganrif yn ymestyn i lawr at afon Conwy ac mae'r ardd cegin o'r 19eg Ganrif yn gartref i winwydd-dy, a choed eirin gwlannog a nectarinau.
Mae'r ardd goed yn cynnwys rhododendron, asalea, coed conwydd enghreifftiol a, chyda dyfodiad y gwanwyn, eirlysiau a chlychau'r gog.
Amser agor: Fe allwch wneud apwyntiad i weld y gerddi ar unrhyw adeg o'r flwyddyn ac mae ar agor rhwng 2pm a 5pm ar y Ddiwrnod Cenedlaethol Gerddi - dydd Sul olaf mis Mai.
Mynediad: Gellir mwynhau'r gerddi drwy'r flwyddyn heb orfod delio gydag unrhyw risiau, a gallwch barcio yn agos at y fynedfa. Croesewir cŵn tywys, ond does dim tŷ bach.
Lleoliad: Bryn Eisteddfod, Glan Conwy, Bae Colwyn, LL28 5LF. Cyfarwyddiadau: Ar gyffordd yr A470 a'r A55 (ger Bae Colwyn), trowch i fyny'r allt tuag at Fryn y Maen.
 |