BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Garddio
HaulfreGerddi Haulfre
Mae'r gerddi hyn yn dilyn llwybr sy'n ymestyn o Ben Morfa, Llandudno, dros ran o'r Gogarth ac i lawr at yr hen dref ger Traeth y Gogledd.
Mae golygfeydd panoramig i'r ddau gyfeiriad, cyn i'r llwybr ddisgyn i ardal hynaf Llandudno, a gafodd ei hadeiladu cyn oes aur y dref fel canolfan dwristaidd yn oes Fictoria.

Mae nifer o blanhigion a blodau yn cael eu tyfu ar derasau ar hyd y llwybr, gyda glaswelltir creigiog y Gogarth y tu cefn iddynt.

I'r rhai mwy egnïol, mae llwybr newydd wedi ei agor sy'n gwyro oddi ar y llwybr arferol i'ch arwain i fyny a thros y Gogarth tuag at y copa.

Mynediad: Mae mynediad rhwydd i'r caffi a darpariaeth ar gyfer yr anabl ar ffurf rampiau ynghanol yr ardd addurniadol. Mae digon o lefydd eistedd o amgylch yr ardd yn ogystal â thoiledau i'r anabl. Nid oes llefydd parcio dynodedig ar gyfer yr anabl.

Lleoliad: Y Gogarth, Llandudno.

Cyfarwyddiadau: O ran uchaf Pen Morfa, ewch ar hyd Marine Drive, tu hwnt i ben y promenâd. O Draeth y Gogledd, o Stryd Mostyn Uchaf, trowch i lawr Llewelyn Avenue ac ymlaen i Ffordd Cwlach a Gerddi Haulfre.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Tywydd
Natur
Radio Cymru


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy