| Mae rhododendron sydd wedi'u tyfu ym Mhortmeirion hefyd i'w gweld yn ogystal â derwen hynafol, blodau'r seithliw (hydrangeas) a rhedynnau.
Amser agor: Bob dydd rhwng 9am a 5pm drwy gydol y flwyddyn. Mynediad: Gall pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn gael mynediad i'r gerddi drwy'r brif fynedfa, ac yna dilyn y llwybr ar hyd y top. Mae modd mynd ar hyd y llwybr ar yr ochr arall, ond fedrwch chi ddim mynd i bob rhan o'r ardd o'r llwybr yma, dim ond eu gweld. Does dim toiledau i'r anabl ond mae lle parcio wrth y brif fynedfa. Mae cynlluniau ar y gweill i wella'r cyfleusterau. Lleoliad: Plas Brondanw, Croesor, Llanfrothen, Gwynedd, LL48 6SW.
 |