| Mae'r llwybr yn mynd o amgylch yr holl ardd neu ar hyd glan y llyn neu ymyl y coed. Amser agor: Mae gerddi Carreglwyd ar agor rhwng 1pm - 5pm fel arfer fis Mai a mis Mehefin - pan fo'r ardd ar ei gorau. Dyddiadau agor 2007: Mai 1af - 18fed, Mai 26ain - 30ain a Mehefin 7fed i 10fed. Mae modd cael eich tywys o amgylch y tŷ ar y dyddiau yma am 2pm, 3pm a 4pm.
Mynediad: Mae mynediad i'r anabl i'r tŷ, rhannau o'r tir ac i'r toiledau. Gallwch barcio yn agos at y tŷ. Mae cynllun ar y gweill i sicrhau bod y llwybrau drwy'r coed yn addas i gadeiriau olwyn.
Lleoliad: Carreglwyd, Llanfaethlu, Holyhead, Anglesey, LL65 4NY.
 |