| Atyniad mwyaf poblogaidd yr ardd ydy'r bwa tresi aur, sydd yn ei flodau o ddiwedd Mai tan ddiwedd Mehefin, tra bod ffrwythau ac aeron ar y coed yn yr hydref.
Mae'r ardd wedi ei rhannu yn ddwy ran - lawntydd a borderi mwy ffurfiol yn y rhan uchaf a choed a blodau naturiol a gwyllt y gerddi isaf, sy'n cael ei alw'n 'The Dell' (Y Glyn). Mae'r rhan yma yn syrthio'n serth tuag at lawr y dyffryn gan ddilyn trywydd rhaeadr sy'n llifo mewn i afon Conwy. Amser agor:
O Fawrth 11 tan Tachwedd 5, 10am i 5pm. Mynediad olaf am 4.30pm. Mynediad: Mae llefydd parcio a thoiled i'r anabl yn y maes parcio sydd wastad ar agor. Mae tŷ bach i'r anabl hefyd yn yr ystafell de ac mae ramp yn arwain at yr ystafell de, yr ardd a'r blanhigfa. Mae cadeiriau olwyn ar gael i'w defnyddio am ddim yn yr ardd (ond does dim modd eu harchebu), yn ogystal ag arweinlyfr mewn Braille. Mae'r ardd yn serth iawn mewn mannau a llawer o risiau yno, ond mae llwybr wedi ei farcio ar y map a fydd yn eich helpu i osgoi'r rhannau yma os oes angen. Os ydych chi yno fel cydymaith i ymwelydd anabl yna cewch fynediad am ddim. Lleoliad: Tal y Cafn, Bae Colwyn, Conwy, Ll28 5RE.
 |