BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Natur

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Garddio
Gerddi Plas NewyddGerddi Plas Newydd
Er bod Plas Newydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'n dal i fod yn gartref i Farcwis Môn, sy'n byw yn y plasty godidog o'r 18fed Ganrif ar lannau'r Fenai.
  • Lluniau o'r gerddi

  • Mae yma ardd lwyni braf yn y gwanwyn a gardd goed Awstralasaidd gydag isdyfiant o lwyni a blodau gwyllt, yn ogystal â theras haf ac, yn hwyrach yn flwyddyn, gwledd o flodau seithliw (hydrangeas) a lliwiau'r hydref.

    Mae llwybrau i fynd am dro drwy'r coed sydd hefyd yn cysylltu â llwybr arall ar hyd glannau'r afon Menai ac mae modd archebu tripiau cwch ar y Fenai sy'n cychwyn o'r jeti.

    Ceir hefyd gardd rhododendron a theras Eidalaidd yn edrych dros y Fenai. Mae modd trefnu teithiau tywys gyda'r garddwr i grwpiau o fwy na 15 o bobl.

    Amser agor: Y gerddi ar agor o 1 Ebrill - 1 Tachwedd 2006, dydd Sadwrn i ddydd Mercher, 11am tan 5.30pm.

    Mynediad: Gan fod y maes parcio 400 llath o'r tŷ, mae gwasanaeth gwennol a bws mini ar gael i'r tŷ a'r gerddi am ddim. Mae'r siop a'r caffi yn hawdd cael atynt gyda'r toiled i'r anabl yn yr hen laeth-dŷ, a gellir darparu ramp i fynd i fyny'r stepiau i'r tŷ. Mae tair cadair olwyn ar gael i'w benthyg (rhaid archebu ymlen llaw) a mynediad llawn i'r llawr gwaelod yn ogystal â seddi drwy'r tŷ a ffeil luniau o'r ystafelloedd ar loriau eraill. Os yw'r gerddi yn ormod ichi eu tramwyo, gallwch ofyn am gludiant. Mae arweinlyfrau Braille a phrint bras wedi eu cynhyrchu.

    Lleoliad: Plas Newydd, Llanfairpwll, Ynys Môn, LL61 6DQ.


    Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Tywydd
    Natur
    Radio Cymru


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy