| Mae'r gerddi, a blannwyd yn oes Fictoria yn wreiddiol, wedi cael eu cadw i gynnal bywyd gwyllt ac maent yn gartref i nifer o adar ac anifeiliaid cynhenid. Mae'r llwyni rhododendron ac asalea a ddygwyd i Gymru o'r Himalayas dros 200 mlynedd yn ôl yn dal i ffynnu yn yr ardd.
Hefyd mae yno lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, terasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi. O'r maes parcio, gallwch fynd ar hyd llwybrau sy'n arwain blith-draphlith at y gerddi coediog, lle mae coed brodorol fel derw, ffawydd a phinwydd yr Alban ac Iwerddon yn tyfu'n gymysg efo coed a llwyni sydd wedi eu mewnforio.
Amser agor: Gellir ymweld â'r gerddi drwy'r flwyddyn ac ar unrhyw adeg o'r dydd (tra bod golau dydd!). Mae'r ganolfan ddehongli ar agor rhwng 10am a 5pm. Mynediad: Yn ogystal â thoiledau i'r anabl, sydd yn y ganolfan ddehongli yn y tŷ haul, mae lifft platfform wedi ei osod i fynd â defnyddwyr cadeiriau olwyn i fyny i derasau uchaf yr ardd. Mae cyfrifiaduron sgrîn-gyffwrdd a sgriniau dehongli yn y tŷ haul i roi gwybodaeth ychwanegol i ymwelwyr. Ar hyn o bryd, mae llefydd parcio i'r anabl ar gael a blychau sain sy'n dweud wrth yr ymwelydd lle mae yn yr ardd. Lleoliad: Plas Tan-y-Bwlch, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3YU.
 |