Mae gwirfoddolwyr dosbarth erbyn hyn yn rhan naturiol o fywyd yr ysgol. Maent yn ategu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan yr athrawon ac yn cefnogi staff eraill. Maent yn adnodd pwysig er mwyn helpu i wella cyrhaeddiad plant a gallant gyfrannu llawer tuag at gymuned yr ysgol.
Beth maen nhw'n ei wneud?
Mae gwirfoddolwyr dosbarth yn helpu gydag amrediad eang o ddyletswyddau yn yr ysgol gan gynnwys:
- darllen gydag unigolion neu grwpiau
- gwneud gwaith celf gyda grwpiau o blant
- paratoi deunyddiau dysgu
- helpu gyda chludiant
- mynd gyda dosbarthiadau ar ymweliadau addysgol.
Sut alla i ddod yn wirfoddolwr dosbarth?
Yn gyntaf, gadewch i'r ysgol wybod bod gennych ddiddordeb, a rhowch ryw syniad iddynt pa ddyletswyddau y byddech yn barod i'w gwneud. Cewch eich cyfeirio wedyn at yr aelod perthnasol o'r staff.
Mae'r gyfraith erbyn hyn yn nodi bod angen archwilio cefndir unrhyw un y mae ei gyfrifoldebau'n golygu y bydd yn dod i gysylltiad rheolaidd â phlant heb oruchwyliaeth - bydd hynny'n eich cynnwys chi os byddwch yn gwirfoddoli i helpu'n rheolaidd yn y dosbarth, a bydd rhaid i chi aros hyd nes bydd yr archwiliadau hyn wedi eu gwneud cyn y gallwch fynd i'r dosbarth. Am fwy o fanylion, cysylltwch â'ch awdurdod addysg lleol.
Beth ddylai'r ysgol ei ddweud wrthyf?
Dylai'r ysgol ddweud wrthych:
- beth yw rheolau ymddygiad yr ysgol ar gyfer oedolion a disgyblion
- pa drefniadau sydd wedi eu gwneud er mwyn osgoi unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â'r gweithgareddau sy'n cael eu gwneud (er enghraifft, rheolau iechyd a diogelwch yn y dosbarth)
- pa drefniadau sydd wedi eu gwneud ar gyfer argyfwng
- a allai problemau godi gydag unrhyw rai o'r disgyblion y byddwch yn eu goruchwylio.
Gwefan ddefnyddiol:
www.cosmic.org/ptadevon/volunteering
Canllawiau ar gyfer gwirfoddolwyr dosbarth
Darllennwch brofiad Kay Richardson fel cynorthwy-ydd dosbarth.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol