Os ydych am roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned a helpu gydag addysg eich plentyn, un ffordd dda o wneud hynny yw cynnig rhywfaint o'ch amser a'ch arbenigedd i ysgol eich plentyn.
Gallwch helpu gyda'r amrediad eang o weithgareddau academaidd ac allgyrsiol, yn rheolaidd neu yn achlysurol, fel bo'r angen, mewn pynciau academaidd neu mewn chwaraeon, neu mewn perthynas â gweinyddiaeth yr ysgol neu waith gyda'r adeiladau. Efallai hefyd fod gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon a gweithgareddau codi arian ar gyfer yr ysgol.
Chwaraeon
Mae chwaraeon yn rhan bwysig o fywyd yr ysgol, yn ystod y diwrnod arferol ac mewn gweithgareddau allgyrsiol. Gall rhieni sydd â phrofiad a diddordeb mewn chwaraeon penodol chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o hyfforddi a threfnu timau ysgolion. Er enghraifft, gallech drefnu clwb nofio ar gyfer y disgyblion yn ystod y penwythnos, hyfforddi'r tîm pêl-droed ar ôl ysgol neu helpu gyda gwersi tenis yn yr haf.
Yn y dosbarth
Gall rhieni gynnig amrediad eang o arbenigedd yn y dosbarth, mewn pwnc rydych wedi ei astudio, neu drwy rannu diddordeb neu hobi. Beth am gyfrifiaduron neu gelf a chrefft? Gallech ddod i mewn i'r ysgol i weithio gyda phlant yn rheolaidd neu efallai fod eich swydd yn gysylltiedig â phwnc y mae'r plant yn ei astudio, ac y gallent elwa o un sesiwn gyda chi yn trafod eich gwaith.
Arbenigedd ymarferol
Gwerthfawrogir arbenigedd ymarferol bob amser. Oes angen silffoedd neu lenni newydd yn y dosbarth? Allai celfi'r dosbarth wneud â chôt o baent? Gall rhieni sydd â'r wybodaeth angenrheidiol wella amgylchedd y plant ac arbed arian i'r ysgol, fel bod modd defnyddio'r arian i brynu llyfrau neu gyfarpar.
Beth i'w wneud
Cysylltwch â'ch ysgol neu siaradwch gyda'r athrawon a rhieni eraill er mwyn gweld sut rydych chi'n meddwl y gallech chi helpu. Bydd ysgolion bob amser yn gwerthfawrogi'ch cynnig.
Gwefannau defnyddiol:
Gyrfa Cymru
Cyngor a gwybodaeth ynglyn â amryw o yrfaoedd.
Pre-School Learning Alliance.
Cynghrair sy'n rhedeg amryw o gyrsiau ac sy'n cyhoeddi gwybodaeth ynglyn â hyfforddiant yn y maes.
National Childminding Association.
Gwybodaeth a chyngor am hyfforddiant a gofalu ar ôl plant.
Gall Learndirect roi gwybodaeth cyffredinol ynglyn â cyrsiau addas. Ffoniwch y llinell gymorth yn rhad ac am ddim ar 0800 100 900.
Darllennwch brofiad Gill O'Connor o helpu yn yr ysgol leol yn Abertawe.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol