BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Y Gymdeithas Rieni ac Athrawon

1 Beth yw'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon?

Beth yw'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon?

Efallai nad yw'n apelio at bawb, ond mae'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon mewn gwirionedd yn rhan hollbwysig o system gefnogi ysgolion. Mae Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon yn trefnu gweithgareddau i godi arian i'r ysgol, yn cefnogi'r plant ac yn rhoi cyfle i bawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol gyfarfod yn gymdeithasol.

Y dyddiau hyn, pan nad yw ysgolion yn cael cymaint o arian, defnyddir arian a godir drwy weithgareddau'r Gymdeithas i brynu adnoddau mawr eu hangen fel cyfrifiaduron neu offer chwaraeon, neu i dalu rhywfaint o gostau ymweliadau addysgol i'r plant. Mae gweithgareddau'r Gymdeithas yn gyfle da i gael hwyl a chyfarfod rhieni eraill, yr athrawon a phobl sy'n gysylltiedig â'r ysgol.

Pwyllgor Rhieni ac Athrawon
Dyma'r rhieni sy'n rhoi eu hamser i drefnu'r gweithgareddau. Maent yn chwilio am wirfoddolwyr a syniadau newydd drwy'r adeg!

Syniadau er mwyn codi arian
Dyma rai o'r syniadau mwyaf poblogaidd a phroffidiol:

  • Ffeiriau - mae'r rhain yn gallu bod yn broffidiol iawn, ond mae llawer o waith trefnu i'w wneud ac mae angen llawer o wirfoddolwyr i helpu. Digwyddiadau tymhorol ydynt fel arfer, sy'n cael eu cynnal adeg y Nadolig neu yn ystod yr haf. Gallant fod yn weddol fach, ac yn gyfyngedig i ddisgyblion a'u teuluoedd, neu'n agored i'r gymuned gyfan, gan werthu lle i faniau hufen iâ, stondinau byrgyrs ac yn y blaen er mwyn denu mwy o bobl.

  • Disgos a dawnsfeydd - mae'r disgo ysgol traddodiadol yn hwyl ac yn ffordd dda o godi arian. Gallai disgos ar gyfer oedolion hefyd godi arian ar y cyrion, ond maent yn fwy tebygol o fod yn gyfle i gymdeithasu yn fwy na dim. Gair o rybudd: gyda disgos ar gyfer oedolion lle mae alcohol i'w werthu ar safle heb drwydded, rhaid i'r trefnwyr wneud cais am drwydded gan ynad lleol.

  • Gweithgareddau noddi - ffordd dda o godi arian heb orfod cael gormod o bobl i helpu. Gallent fod yn chwaraeon (bydd angen yswiriant a goruchwyliaeth ofalus ar gyfer y rhain) neu'n weithgareddau dosbarth, fel dysgu tablau, diarhebion, barddoniaeth ac yn y blaen, sy'n dod â budd arall ar wahân i'r budd ariannol.

  • Ocsiynau addewidion - bydd Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon yn gofyn i rieni a busnesau lleol gynnig 'addewidion' a fydd wedyn yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant. Gallai'r rhain fod yn noson o warchod plant, diwrnod o beintio tŷ, steil gwallt newydd, cacennau, pryd o fwyd mewn bwyty - mae'r posibiliadau'n ddi-ben-draw! Bydd y rhain wedyn yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant i'r sawl sy'n cynnig y pris uchaf. Os am noson lwyddiannus, rhaid cael arwerthwr da!

  • Nosweithiau gan gwmnïau lleol - mae digwyddiadau sy'n cael eu trefnu'n fasnachol fel sioeau ffasiwn, nosweithiau blasu gwin ac yn y blaen, yn ddelfrydol ar gyfer codi arian. Bydd cwmnïau fel eich cangen leol o siop gadwyn fawr, yn ogystal â chwmnïau lleol llai, yn dod i ysgol i drefnu gweithgaredd. Os ydych yn gwneud sioe ffasiwn, defnyddiwch y plant fel modelau a bydd y rhieni a'r teidiau a'r neiniau'n heidio i brynu tocynnau!

Gwefannau defnyddiol:
Cyngor a dolenni cyswllt defnyddiol gan Gymdeithas Rieni ac Athrawon Dyfnaint

Cyngor a syniadau ar gyfer codi arian

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 1 o 1|1Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Gwirfoddolwyr dosbarth
Y Gymdeithas Rieni ac Athrawon
Bod yn llywodraethwr ysgol
Hoffech CHI ddysgu?
Gwybodaeth pellach
  • Adroddiadau
  • Dewis Ysgol
  • Disgyblaeth yn yr ysgol

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpschool-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_helpschool-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy