Mae'r gêm 'pwy yw pwy' syml hon yn canolbwyntio ar sgiliau darllen a gwrando wrth i chi geisio adnabod amryw o gymeriadau trwy ystyried y wybodaeth a roddir yn eu cardiau adnabod.
Mae gennych dri chyfle i weld detholiad o gardiau adnabod. Trwy ddatgelu cliwiau testun neu glywedol yn unig, rhaid i chi wedyn ddyfalu pwy sy'n cael ei ddisgrifio.
Mae gan y tri gweithgaredd "Qui est Qui?" ffocws gwahanol ar eirfa:
Disgrifiadau o'r wyneb a lliw gwallt.
Disgrifiadau o'r wyneb a lliw gwallt, yn ogystal ag oed, taldra a dillad.
Teulu, diddordebau a hoff bethau.