Mae hon yn gêm paru cyflym lle gallwch ddod o hyd i ffrind neu bartner trwy wneud dewisiadau wedi eu seilio ar eich dealltwriaeth o gwestiynau ac atebion Ffrangeg syml.
Chwiliwch y gronfa ddata i ddod o hyd i ddewis o ddau bartner neu ffrind posibl, yna gofynnwch gwestiynau i ddarganfod a ydych chi'n cydweddu'n berffaith. Byddwch yn ymarfer darllen a siarad am eich teulu, eich personoliaeth, hoff bethau, cas bethau a diddordebau.
Cliciwch ar yr eicon help i gael cyfarwyddiadau wedi eu hanimeiddio yn dangos i chi sut mae chwarae'r gêm.
Mae'r ddau weithgaredd "Matchez Moi" yn canolbwyntio ar:
Ymarfer darllen ac adnabod iaith allweddol disgrifiadau personol - disgrifiadau o wynebau a lliw gwallt.
Ymarfer pellach mewn darllen ac adnabod iaith allweddol disgrifiadau personol a theulu, hobïau, disgrifiadau corfforol a phersonoliaeth.