Le Studio


Crëwr stribed comig yw hwn yn cynnwys yr holl offer sydd ei angen i greu comig y gellir ei argraffu - yr unig bethau sydd angen i chi eu creu yw syniadau da ar gyfer storïau!

Mae'n darparu lluniau cefndir, cymeriadau ac eitemau o'r stori yn ogystal â swigod siarad a'r testun i'w roi ynddyn nhw. Gallwch newid maint y gwrthrychau a'r cyfeiriad maen nhw'n ei wynebu.

Rydych chi'n gallu arbed y gwaith rydych chi'n ei greu yn Le Studio ar y cyfrifiadur lle rydych chi'n gweithio. Gofynnir i chi a ydych chi am logio i mewn pan fyddwch chi'n arbed eich gwaith. Bydd angen i chi wneud hyn er mwyn creu eich proffil. Os ydych chi eisoes wedi creu proffil ar gyfrifiadur byddwch yn gallu llwytho'ch proffil a'r gwaith rydych wedi ei gadw ar y cyfrifiadur penodol hwnnw.

Ewch i'r dudalen rheoli proffiliau i ddileu proffil penodol neu bob proffil oddi ar eich cyfrifiadur.

Mae Le Studio yn ymddangos yn y penodau i gyd.



Copyright © 2015 BBC.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.