Arweiniwch reidiwr y BMX o gwmpas yr ardal chwarae i gasglu geiriau Ffrangeg yn y drefn gywir tra'n osgoi'r rhwystrau a'r rhes o eiriau y tu ôl i'r beic.
Cewch adborth ar eich ymatebion yn syth. Mae crynodeb y gellir ei brintio o'r atebion i'w gael ar ddiwedd y gêm.
Mae'r chwe gweithgaredd La chaîne des Mots yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o eirfa:
Dyddiau, misoedd a dyddiadau.
Banodau penodol ac amhenodol - le, la, les, un, une, des.
Atgyfnerthu dealltwriaeth o'r ferf 'aller', mynd.
Atgyfnerthu dealltwriaeth o'r ferf 'faire', gwneud.
Adferfau amser ac amledd megis 'toujours', bob amser, a 'd'habitude', fel arfer.
Y gystrawen 'il y a'.