Mae pob pennod yn cynnwys gweithgaredd rhyngweithiol wedi ei seilio ar gymeriadau neu olygfeydd o'r stori sy'n eich helpu i ddysgu geirfa ddefnyddiol.
Cymerwch olwg ar gar to meddal smart Ben a dysgwch beth mae'r rhannau'n cael eu galw yn Ffrangeg. Mae popeth yn gweithio wrth i chi glicio botwm: y goleuadau, y system stereo, y corn a llawer mwy.
Pennod 2 - La Carte d'Identité
Rhaid i bob person Ffrengig gario'i gerdyn adnabod bob amser. Edrychwch ar gerdyn Alex, ffeindiwch pa mor dal yw e a chymerwch olwg ar ei lun. Gallwch glicio ar unrhyw eiriau sy'n anodd ac maen nhw'n cael eu cyfieithu'n syth i'r Gymraeg.
Pennod 3 - Le Site Web de 'You Are
'You Are' yw grŵp rap mwyaf cŵl Marseille, a nhw hefyd yw ffefrynnau Alex a Malik. Cymerwch olwg ar eu gwefan i gael gwybodaeth am Paula G, Cyclone ac aelodau eraill y band.
Pennod 4 - L'Avis de Recherche
Mae'r heddlu'n cadw golwg am gwpwl o ladron ceir. Ydy Alex a Ben yn ateb y disgrifiad? Darllenwch y poster heddlu hwn i ddarganfod yr ateb.
Pennod 5 - Le Journal de Jamila
Darllenwch ddyddiadur Jamila i ddarganfod mwy am ei threfn bob dydd. Mae'n ferch brysur: yn mynd i'r ysgol, yn cwrdd â ffrindiau, a chymryd rhan mewn chwaraeon - sut mae hi'n llwyddo i wneud y cyfan?
Pennod 6 - Le Téléphone Portable
Pwy sy'n galw? Gwrandewch ar y neges sydd ar ffôn symudol rhyngweithiol Justine, a darllenwch ei neges testun er mwyn cael yr hanes diweddaraf am Alex a'i ffrindiau.
Pennod 7 - La Chambre de Jamila
Pa fath o berson yw Jamila? Cymerwch olwg ar ei hystafell wely er mwyn darganfod sut berson yw hi a beth mae hi'n hoffi ei wneud.
Pennod 8 - Le Supermarché Interactif
Mae Alex yn siopa dros ei dad-cu yn yr archfarchnad, ond beth fydd e'n ei brynu?
Mae Justine, sy'n hoffi cloncian, yn gwybod popeth am bawb, ond pwy yw ei ffrindiau a beth mae hi'n ei ddweud amdanyn nhw? Cymerwch olwg trwy ei halbwm lluniau i ddysgu mwy.
Pennod 10 - L'Armoire de Justine
Ydych chi'n meddwl fod ganddoch chi steil? Cymerwch olwg yng nghwpwrdd dillad Justine i weld a fyddech yn debygol o wisgo'i dillad!
Pennod 11 - Le Télévision Interactif
Beth sydd ar y teledu? Ffeindiwch pa gymeriadau mae Alex a Ben yn eu gwylio ar y set deledu ryngweithiol yma.
Pennod 12 - Le Plan Interactif
Mae Alex a Ben ar eu ffordd allan, ond i ble maen nhw'n mynd? Gwrandewch ar y cyfarwyddiadau a chliciwch i ddilyn eu taith ar y map rhyngweithiol hwn - allwch chi eu harwain i ben eu taith?