Dyma'ch cyfle i fod yn gynhyrchydd recordiau llwyddiannus! Gwyliwch a gwrandewch wrth i'r MC fynd trwy'i bethau a helpwch ef i fynd i dop y siartiau.
Gwyliwch frawddegau Ffrangeg yn mynd heibio o flaen eich llygaid a phenderfynwch pa lifer i'w dynnu i roi'r geiriau sydd wedi eu lliwddangos yn un o'r categorïau a gynigir. Po fwyaf a gewch chi'n iawn, y mwyaf o recordiau y bydd MC des Mots yn eu gwerthu.
Mae yna lefel hawdd a lefel anodd a dewis o ddau ddull o chwarae.
Mae'r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar:
Adnabod y rhagenwau gwrywaidd a benywaidd 'le, la a les', 'un, une a des' yn ogystal ag 'il ac elle'.
Defnyddio ac adnabod ffurfiau o'r berfau avoir, 'cael', ac être, 'bod'.
Defnyddio ac adnabod y rhagenwau gwrthrychol unigol a lluosog 'je', 'tu', 'il', 'elle', 'on', 'nous', 'vous', 'ils', ac 'elles'.
Adnabod ansoddeiriau gwrywaidd a benywaidd.
Adnabod berfau.