Inter-Action!

Inter-Action



Defnyddiwch yr offeryn berfau yma i weld berfau Ffrangeg cyffredin wedi eu hanimeiddio a'u perfformio gan y cymeriadau Léo a Léa. Mae cefnogaeth barhaol gyda chyfarwyddiadau ac adborth, yn ogystal â'r cyfleusterau 'cliw' i roi awgrymiadau pan fyddwch chi'n cael anhawster.

Dewiswch eich cymeriad ac yna dewiswch weithgaredd.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:

Commander - dywedwch wrth Léo a Léa beth i'w wneud
Choisir - dewiswch a gwyliwch ferf
Retrouver - rhowch lythrennau yn y drefn gywir i sillafu berf
Deviner - dyfalwch beth mae Léo neu Léa yn ei wneud.

Mae'r berfau wedi eu trefnu'n ôl trefn y wyddor a fesul grŵp - berfau -er, -ir ac -re - gyda phwyslais penodol yn cael ei roi i ferfau afreolaidd cyffredin.

Mae'r pedwar gweithgaredd Inter-Action gwahanol yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o ddefnyddio berfau Ffrangeg:

Pennod 3

Adnabod a sillafu berfenwau berfau -er, -ir ac -re.

Pennod 5

Rhedeg berfau -er, -ir ac -re yn y ffurfiau unigol yr amser presennol - 'fi', 'ti', 'fe' a 'hi'.

Pennod 8

Rhedeg berfau -er, -ir ac -re sy'n ymwneud â gwaith tŷ, a phatrymau rhedeg ffurfiau unigol a lluosog.

Pennod 12

Rhedeg berfau -er, -ir ac -re yn yr amser presennol ar gyfer brawddegau'n defnyddio 'ni', 'chi', a 'nhw' a phatrymau rhedeg ar gyfer y ffurfiau lluosog 'nous', 'vous', 'ils', ac 'elles'.



Copyright © 2015 BBC.Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.