Drama ryngweithiol ar gyfer bobl ifanc 11-14 oed yw 'Les Choix'. Cafodd y ddrama ei ffilmio ar leoliad ym Marseille. Mae'r 12 pennod fer yn archwilio'r thema o hunaniaeth ac yn delio â nifer o faterion yn ymwneud â'r arddegau megis cyfeillgarwch, cariad, trosedd a hiliaeth.
Mae pob pennod yn canolbwyntio ar eirfa a gramadeg penodol. Maen nhw'n cynnwys ymarferion wedi eu seilio ar fideo a gweithgareddau rhyngweithiol sy'n atgyfnerthu'r dysgu sy'n gysylltiedig â phob pennod.
Mae cefnogaeth sain, allweddair ac is-deitlau llawn yn ogystal â geirfa ar gael yn y Ffrangeg a'r Gymraeg.
Mae yna ddwy ffordd o gael gafael ar y gweithgareddau hyn:
1. Chwarae gweithgareddau unigol
I fynd yn syth at weithgaredd unigol, cliciwch ar dabiau'r bennod ar dop y sgrîn i gael gweld rhestr o'r holl weithgareddau ar gyfer y bennod honno, yna cliciwch ar y gweithgaredd.
2. Chwarae trwy fyd Les Choix
Mae Les Choix yn cynnwys 12 lleoliad gwahanol, pob un yn gysylltiedig â phennod arbennig.
Y lleoliad cyntaf yw'r traeth. Symudwch eich cyrchwr dros olygfa'r traeth i amlygu pedwar gweithgaredd y gellir eu chwarae i ddechrau. Cwblhewch yr ymarferion sy'n seiliedig ar fideo yna chwaraewch y gweithgareddau eraill.
I fynd i'r penodau eraill, cliciwch ar y botwm 'Menu' yn y gornel chwith isaf ac yna dewiswch La Carte. Mae lleoliadau'r penodau i gyd yn cael eu dangos ar fap Marseille.
Help iaith
Mae'r help canlynol ar gael:
• Botwm newid iaith
Yn y gweithgareddau i gyd gallwch newid y testun ar y sgrîn o'r Ffrangeg i'r Gymraeg
• Geirfa
Mae pob gweithgaredd yn cynnwys Geirfa sy'n rhestru geiriau Ffrangeg defnyddiol a'u cyfieithiadau Cymraeg
• Pwyntiau dysgu
Mae'r gweithgareddau sy'n seiliedig ar fideo yn cynnwys rhestr o'r iaith y canolbwyntir arno yn y bennod honno. Cliciwch ar yr eicon 'i' i weld y rhestr.
Cymorth sain a gweledol
Gallwch chi glicio ar y botwm 'Cymorth clyweledol' i:
• ailfeintio'r testun ar y sgrîn a newid lliwiau'r testun a'r cefndir
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen yn uchel.
Ni ellir defnyddio'r dewisiadau yma tra'ch bod yn yr adran Gwybodaeth.
Gallwch hefyd symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys trwy ddefnyddio'r bysellfwrdd.