Heb ei drin, mae'n gallu aros yn eich system am oes, a gall arwain at anffurfiad, niwed i'r ymennydd a marwolaeth.
Am beth dylwn i fod yn edrych?
Y rhan fwyaf o'r amser, does na ddim symptomau. Rhwng tair wythnos a 90 diwrnod ar ôl dal syffilis byddwch chi'n sylwi ar friwiau neu wlserau agored, gwlyb ar eich organau, ceg neu ben ôl. Gall y rhain fynd a dod am ryw ddwy flynedd! Efallai y cewch chi frech ar eich traed a dwylo, pennau tost, gwddw tost, chwarennau chwyddedig, blinder, colli gwallt a cholli pwysau, a chyhyrau poenus. Mae traean o'r bobl sy ddim yn cael triniaeth hefyd yn dioddef o ddifrod i'r galon, yr ymennydd, nerfau ac organau eraill.
Mae'r afiechyd yn heintus iawn yn y cyfnod cynnar, ac mae'r llif o'r briwiau'n heintus dros ben. Mae'n gallu pasio o'r fam i'r baban cyn ei eni, a gall hyn achosi problemau genedigol.
A sut mae dal yr haint?
Ych chi'n gallu dal Syffilis drwy gael rhyw o unrhyw fath, trwy gyffwrdd - hyd yn oed trwy gusanu. Byddwch yn ofalus - gwnewch yn siwr eich bod chi'n nabod y person ych chi'n ei snogio! Mae cysgu o gwmpas, cysgu gyda phobl sydd hwythau'n cysgu o gwmpas, neu gael rhyw heb gondom yn gallu cynyddu'ch siawns o ddal yr afiechyd hwn.
Sut ych chi'n mynd i amddiffyn eich hun?
Os yw'r haint gynnoch chi, peidiwch â chael rhyw nes i chi orffen eich triniaeth. Dywedwch wrth eich partneriaid rhyw am eich haint iddyn nhw gael eu profi a'u trin.
O, ie - gwisgwch gondom bob tro - y merched a'r bechgyn!