BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dewch Gymry’n Lân

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg

Dewchgymrynlan
Clamydia
Herpes
Syffilis
Gonorrhoea
HPV
HIV
Rhyw diogel

English


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

ChlamydiaHerpesSyffilisHadlifDafadennauHIVRhyw diogel
HerpesHerpes

Fel pob firws arall, gall Herpes aros yn eich system am oes, a does dim gwellhad.
Dwedwch fwy amdano!

Os y'ch chi'n feichiog, mae Herpes yn gallu achosi erthyliad, esgor cynnar a babanod marw-anedig. Os yw'r firws yn actif yn ystod genedigaeth, gall yr afiechyd achosi difrod iechyd difrifol i'r baban.

Beth yw'r arwyddion?

Y drafferth yw, fel arfer does na ddim symptomau. Efallai bod gynnoch chi frech sy byth yn diflannu, briwiau poenus, pothelli sy'n cosi ar eich organau, ceg, pen ôl a rhannau eraill y corff. Mae'r briwiau'n gallu troi i mewn i wlserau poenus. Y tro gyntaf y cewch chi'r haint, yn ogystal â'r frech, efallai cewch chi deimlad o losgi wrth biso, chwarennau chwyddog, y dwymyn, pen tost, a theimlad o syrthni.

Mae Herpes yn heintus tu hwnt. Ych chi'n gallu ei ddal drwy gael rhyw o unrhyw fath, trwy rhyw y geg gyda rhywun sydd ag Herpes y geg (crach, neu 'cold sore' yn Saesneg), trwy gyffwrdd - hyd yn oed trwy gusanu. Byddwch yn ofalus - yr amser mwyaf heintus yw rhwng ymddangosiad y briwiau a'r crachod (scabs) yn plicio.

Fel arfer mae'n cymryd rhwng deuddydd ac ugain diwrnod i'r symptomau ymddangos, ond gallwch aros am flynyddoedd cyn yr arwyddion cyntaf. Efallai y byddwch chi'n ffodus, ac yn cael ambell i arwydd fod y broblem yn ymddangos: goglais, llosgi neu gosi lle oedd y briwiau. Efallai bydd y rhain yn ymddangos ychydig oriau neu ddyddiau cyn i'r pothelli ymddangos.

A sut mae'i ddal e?

Mae cysgu o gwmpas, cysgu gyda phobl sydd hwythau'n cysgu o gwmpas, neu gael rhyw heb gondom yn gallu cynyddu'ch siawns o ddal yr afiechyd hwn.

Sut alla' i amddiffyn fy hun?

Os oes gynnoch chi bothelli, peidiwch â chael rhyw heb gondom. Arhoswch nes bod y pothelli wedi mynd: mae cael rhyw, hyd yn oed gyda chondom, yn gallu poeni'r pothelli, a byddan nhw'n cymryd mwy o amser i wella - ydy hi'n werth y risg?

Os oes gynnoch chi bothelli, peidiwch â chyffwrdd â nhw. Os ydych chi, golchwch eich dwylo - mae sebon a dwr yn lladd y firws. Golchwch eich dwylo ar ôl mynd i'r toiled. Golchwch nhw cyn rhwbio'ch llygaid neu gyffwrdd â lensys cyswllt - peidiwch â phoeri ar lensys chwaith - gallwch chi ledu'r Herpes i'ch llygaid.

Lein cymorth
Cymorth Lleol
Cysylltiadau
Hysbys Teledu
ENGLISH
STI Myths
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy