HIV yw'r mwya peryglus o'r heintiau hyn i gyd gan nad oes gwellhad arno. Mae'n gwanhau'ch system imiwnedd, ac o'r herwydd mae'n fwy anodd i ymladd yn erbyn afiechydon eraill.
Gallwch gael yr haint am ddeng mlynedd cyn i chi weld unrhyw arwyddion, ond ych chi'n gallu lledu'r haint i eraill heb wybod. Ar hyn o bryd, does neb wedi gwella o AIDS - brawychus, on'd yfe?
Beth yw arwyddion HIV?
Os yw HIV gynnoch chi, efallai y byddwch chi'n sylwi ar farciau porffor ar eich croen, colli pwysau a dolur rhydd (diarrhoea), blinder, y dwymyn, pennau tost, a'r llindag (thrush) yn eich ceg neu fagina.
A sut mae dal hi?
Ych chi'n gallu dal HIV drwy unrhyw fath o ryw heb gondom - rhyw arferol, rhyw refrol (lan eich twll tin), ac weithiau rhyw geg - gyda phartner sydd â'r afiechyd. Gallwch chi ddal yr haint drwy rannu chwistrelli brwnt, cael eich pigo'n ddamweiniol gan chwistrell frwnt, bwydo o'r fron a thrallwysiad gyda gwaed heintiedig.
Po fwya'r siawnsiau ych chi'n cymryd, po fwya'r siawns o ddal yr haint. Meddyliwch am unrhyw benderfyniadau ych chi'n eu gwneud am ryw a chymryd cyffuriau. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n gwybod be' 'dy be', a chofiwch: nid afiechyd sy'n effeithio dynion hoyw mohono. Un peth sydd yn wir yw mai trwy brawf gwaed yn unig y gellir dweud bod yr afiechyd 'da chi.
Ond beth amdanoch chi - beth allwch chi ei wneud i gadw'n sŵff?
- Peidiwch fyth â rhannu chwistrelli a phethau i chwistrellu cyffuriau - gallwch roi'r firws yn syth i mewn i'ch system gwaed drwy wneud hyn
- Peidiwch â rhannu pethau a all fod wedi'u heintio gan waed, megis raseli neu frwshys dannedd
- Gwisgwch gondom bob tro - y merched ar bechgyn!
Gyda llaw, does dim AIDS gan bawb sydd â HIV - cam ola'r haint ydy hi.