BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dewch Gymry’n Lân

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg

Dewchgymrynlan
Clamydia
Herpes
Syffilis
Gonorrhoea
HPV
HIV
Rhyw diogel

English


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

ChlamydiaHerpesSyffilisHadlifDafadennauHIVRhyw diogel
GonorrhoeaGonorrhoea

Does neb yn mynd i guro dwylo os gewch chi'r clap! Chewch chi ddim byd ond anffrwythlondeb, arthritis a phroblemau gyda'ch calon.
Be' dych chi'n ei feddwl?

Fel Clamydia, mae Gonorrhoea yn gallu arwain at broblemau mawr. Ymhlith merched, mae'n gallu arwain at glefyd llid pelfig ('pelvic inflammatory disease', neu 'PID', yn Saesneg), beichiogrwydd ectopig, esgor cynnar a babanod marw-anedig.

Dyw pethau ddim lot gwell i chi'r bechgyn: mae'n gallu heintioch llygaid, eich llwnc, eich twll tin - ac os oes gynnoch chi heintiau cysylltiad rhywiol eraill, y siawns yw na fyddwch chi'n gweld yr arwyddion.

A beth yw'r arwyddion?

Fechgyn, gwyliwch am biso'n fwy aml, llosgi, a rhedlif gwyrdd/melyn yn dod o'ch pidyn.

Ferched - efallai y byddwch chi'n sylwi ar redlif, piso'n fwy aml, poen wrth gael rhyw, misglwyf afreolaidd a phoen yn isel yn eich stumog neu yn eich pelfis.

Grêt, ond yfe?

Sut mae'n cael ei lledu?

Ych chi'n gallu dal Gonorrhoea drwy unrhyw fath o ryw heb gondom: rhyw arferol, rhyw geg neu ryw refrol (lan eich twll tin) gyda phartner sydd â'r afiechyd. Does dim rhaid i chi gael rhyw treiddiol i ddal yr haint hon - gallwch chi ei dal hi drwy gyffwrdd ag organau cenhedlu. Mae gynnoch chi fwy o siawns o'i dal os ych chi'n cysgu o gwmpas, os yw'ch partner yn cysgu o gwmpas, neu os ych chi ddim yn gwisgo condom.

Byddwch chi'n sylwi arwyddion yr afiechyd o fewn pythefnos o'i dal.

Sut ych chi'n mynd i ofalu am eich darnau?

Os yw'r haint gynnoch chi, peidiwch â chael rhyw nes i chi orffen eich triniaeth. Dywedwch wrth eich partneriaid rhyw am eich haint iddyn' nhw gael eu profi a'u trin.

O, ie - gwisgwch gondom bob tro - y merched ar bechgyn!

Lein cymorth
Cymorth Lleol
Cysylltiadau
Hysbys Teledu
ENGLISH
STI Myths
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy