BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dewch Gymry’n Lân

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg

Dewchgymrynlan
Clamydia
Herpes
Syffilis
Gonorrhoea
HPV
HIV
Rhyw diogel

English


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

ChlamydiaHerpesSyffilisHadlifDafadennauHIVRhyw diogel
Dafadennau'r organau cenhedluDafadennau'r organau cenhedlu

Fel pob firws arall, mae'r firws sy'n achosi dafadennau'r organau cenhedlu yn aros yn eich system am oes, a does dim gwellhad.
Beth dych chi'n ei feddwl?

Dim ond y symptomau sy'n gallu cael eu trin ac nid y firws ei hun. Mae 'na fwy nag wythdeg math o firysau papilloma dynol. Maen' nhw'n achosi dafadennau a chyflyrau eraill. Dim ond ychydig o'r gwahanol fathau o firws sy'n achosi dafadennau ar eich organau cenhedlu, ac efallai na fyddwch chi'n sylweddoli bod haint gynnoch chi, gan nad oes symptomau bob un tro.

A beth yw'r symptomau hyn?

Os ych chi'n ddigon anffodus i gael symptomau, wedyn bydd dafadennau'n ymddangos ar eich rhannau, wrethra a phen ôl, ac weithiau yn eich gwddw. Byddwch chi wrth eich bodd gyda hyn: mae'r dafadennau fel blodfresych bach meddal, neu fel lwmpyn mawr fflat, ac maen' nhw'n gallu cosi. Os nad ych chi'n sortio nhw, gallen nhw dyfu'n o fawr!

Fel arfer mae'n cymryd rhwng pythefnos a phedair wythnos i'r dafadennau dyfu. Bydden nhw'n tyfu'n gyflymach os ych chi'r merched yn feichiog, neu os oes gynnoch chi haint arall.

Sut mae dal y firws?

Ych chi'n gallu dal y firws drwy unrhyw fath o ryw: rhyw arferol, rhyw geg neu ryw refrol (lan eich twll tin) gyda phartner sydd â'r afiechyd. Weithiau mae'n pasio o'r fam i'r baban yn ystod genedigaeth.

Mae cael rhyw gydag un neu fwy o bobl, a chael rhyw gyda phartner sy'n gwneud yr un peth a ddim yn defnyddio condom yn gallu cynyddu'ch siawns o ddal yr afiechyd hwn.

Beth alla' i wneud?

Mae gwisgo condom yn gallu helpu, ond nid yw bob amser yn eich amddiffyn: mae'r firws yn gallu lledu o'r mannau hynny sy ddim wedi'u gorchuddio gan gondom.

Dal i deimlo'n sâff? Peidiwch â chael rhyw os ych chi'n meddwl bod yr haint gynnoch chi, neu nes i chi orffen eich triniaeth. Ewch yn syth at y meddyg i gael triniaeth.

Lein cymorth
Cymorth Lleol
Cysylltiadau
Hysbys Teledu
ENGLISH
STI Myths
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy