|  |
 | |  |  | 
 Cymerwch ofal o'ch hunan - allwch chi ddim dibynnu ar neb arall i'w wneud! |  |
 | Peidiwch â theimlo'n chwithig am ofalu am eich iechyd rhywiol. Does gynnoch chi ddim byd i gochi amdano; mae'r staff meddygol wedi gweld hyn dro ar ôl tro! Mae pobl yn ei ffeindio'n anodd i siarad am eu hiechyd rhywiol, ond mae'n beth synhwyrol i feddwl am ryw diogel, ac i fynychu'r clinig Meddygaeth Genhedlol Droethol (MGD - neu GUM yn Saesneg) neu'r meddyg am brawf blynyddol. Mae cymryd gofal yn golygu defnyddio condom bob tro dych chi'n cael rhyw. Maen nhw'n cynnig y gofal gorau rhag heintiau cysylltiad rhywiol. Mewn un arbrawf, roeddyn nhw'n gyfrifol am stopio lledu HIV ymhlith 123 o gyplau lle roedd gan un o'r partneriaid yr haint hwnnw. Beth ydy rhyw diogel? - Defnyddiwch gondom bob un tro gyda phartneriaid rhywiol newydd
- Gwnewch yn siwr eich bod chi'n gwybod sut i ddadlau o blaid gwisgo condom - efallai bydd angen awgrmiadau arnoch chi ar 'gyd-drafod gwisgo condom (am fwy o wybodaeth, ewch i safle The Young Peoples' Sexual Health Website - manylion ar y dalen Cysylltiadau)
- Meddyliwch am iechyd, cysur a phleser eich partner
- Byddwch yn agored gyda'ch gilydd am unrhyw heintiau cysylltiad rhywiol dych chi wedi'u cael yn y gorffennol - neu sy gynnoch chi nawr
- Does neb am wisgo condom gyda'r un partner am oes - ond gwnewch yn siwr mae'r ddau ohonoch chi'n cael eich sgrinio cyn stopio!
- Os ych chi neu eich partner yn dal rhywbeth, ewch yn syth at y clinig MGD neu'r meddyg am brofion a thriniaeth
- Ffeindiwch allan os oes angen triniaeth ar eich partner
- Os oes haint gynnoch chi, gorffennwch unrhyw foddion sy'n cael ei rhoi i chi
- Rheolwch y sefyllfa (a gwisgwch gondom - ych chi'n gallu gweld y neges eto?)
- Mae'n cymryd ond un camgymeriad i ddal rhywbeth cas!
- Cofiwch nad oes angen i chi fynd yr holl ffordd i ddal rhywbeth
- Gwnewch yn siwr eich bod chi'n gwisgo condom bob tro - bydd hyn yn cael gwared o'r ofn, a chewch chi lot fwy o hwyl o'r herwydd
Os ych chi neu'ch partner yn ffeindio bod gynnoch chi rai o'r symptomau hyn, ewch at y clinig neu'r meddyg ar unwaith! Os arhoswch chi'n rhy hir, fe all fod yn rhy hwyr. Cofiwch, mae unrhyw brofion a thriniaeth ar gyfer heintiau cysylltiad rhywiol yn hollol gyfrinachol - ond drwy ofalu drosoch chi eich hun, fydd ddim angen i bethau mynd cyn belled â hyn! Gwisgwch gondom BOB TRO!
|  |
|  | |  |  |  |  |  |  |  | | [an error occurred while processing this directive] |  |
|
|