BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dewch Gymry’n Lân

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg

Dewchgymrynlan
Clamydia
Herpes
Syffilis
Gonorrhoea
HPV
HIV
Rhyw diogel

English


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

ChlamydiaHerpesSyffilisHadlifDafadennauHIVRhyw diogel
Clamydia - haint all arwain at anffrwythlondebClamydia

Clamydia? Na - nid blodyn, ond haint sy'n gallu arwain at anffrwythlondeb!
Beth yn union yw Clamydia?

Mewn merched, mae'n gallu amharu ar eich rhannau atgenhedlu. Hefyd, mae'n gallu achosi problemau gyda'ch pledren, clefyd llid pelfig difrifol ('pelvic inflammatory disease', neu PID, yn Saesneg), a beichiogrwydd ectopig. Gall y fam basio Clamydia i'w phlentyn, a gall hyn achosi niwmonia, afiechydon yn y llygaid, a hyd yn oed dallineb mewn babanod newydd eu geni.

Mewn bechgyn, mae'n effeithio ar eich wrethra (pibell piso), ac mae'n gallu lledu i'ch ceilliau. Ymhlith bechgyn ifainc mae'n gallu arwain at Glefyd Reiter, sy'n achosi heintiau, gwenygon (arthritis) a jyst i wneud i chi deimlo'n well mae un o bob tri sy'n dal Clefyd Reiter yn datblygu anabledd.

Beth yw'r arwyddion?

Os yw Clamydia gynnoch chi, efallai cewch chi redlif o'ch pidyn neu fagina, poen a llosgi wrth i chi biso, llid yn y pen ôl neu geg y groth, stumog dost, salwch a'r dwymyn. Ferched, efallai y byddwch chi'n gwaedu'n drwm, sbotio rhwng misglwyfau neu ar ôl rhyw, ac mae cael rhyw yn gallu bod yn boenus. Fechgyn, gall eich ceilliau chwyddo lan a bod yn boenus.

Bydd symptomau'n ymddangos o fewn 7 - 21 diwrnod, os o gwbl. Mae'n anodd iawn credu, ond mae hyd at 70% o ferched a 50% o ddynion yn dangos dim arwyddion o gwbl bod gynnon nhw Glamydia! Dim un!

Mae'r rhan fwyaf o ferched yn darganfod bod gynnon nhw Glamydia ar ôl i ddoctoriaid ddarganfod yr haint yn eu partneriaid. Beth sy'n gallu digwydd - ac mae hyn yn wir - yw bod merched yn darganfod bod gynnon nhw Glamydia pan maen' nhw'n cael eu trin am anffrwythlondeb.

Sut mae dal hi, felly?

Mae Clamydia'n cael ei lledu drwy gael rhyw o unrhyw fath. Dyw hi ddim yn gyffredin, ond mae'n bosib trosglwyddo'r haint o'ch dwylo i'ch llygaid. Mae'n bwysig i chi sylweddoli bod heintiau cysylltiad rhywiol eraill yn gallu cuddio arwyddion Clamydia.

Be' dwi'n ei wneud i amdiffyn fy hun?

Os ych chi'n cael rhyw gydag un neu fwy o bobl a bod eich partner yn gwneud yr un peth ac ddim yn defnyddio condom, yna mae mwy o siawns y byddwch chi'n dal Clamydia. Os ych chi wedi cael heintiau cysylltiad rhywiol eraill, yna mae mwy o siawns y byddwch chi'n dal Clamydia. Gwisgwch gondom bob tro! Os yw'r haint gynnoch chi, peidiwch â chael rhyw nes i chi orffen eich triniaeth. Dywedwch wrth eich partneriaid rhyw am eich haint iddyn' nhw gael eu profi a'u trin.

Lein cymorth
Cymorth Lleol
Cysylltiadau
Hysbys Teledu
ENGLISH
STI Myths
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy