Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2012

Hatrick i Natasha Harding o Gaerdydd

Glyn Griffiths|09:39, Dydd Llun, 25 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Hatrick i Natasha Harding o Gaerdydd, a hyn in gyd o fewn deugain munud, ac un yr un gan Sarah Wiltshire (Watford) a Hannah Keryakoplis (Lerpwl)

Buddugoliaeth haeddiannol i berfformiad grymus merched Cymru ar Gae Ras Prifysgol Glyndwr yn erbyn Israel nos Fercher, o flaen torf o 721.

Golyga hyn fod Cymru wedi symud i ail safle yng Ngrŵp 4 wrth geisio cymhwyso ar gyfer cystadlu yn rowndiau terfynol Ewro 2013 yn Sweden.

Doedd dim dadlau nad oedd Cymru ben ac ysgwydd yn well na'u gwrthwynebwyr gyda chapten Cymru, Jessica Fishlock o glwb Academi Bryste yn dangos arweiniad a phendantrwydd yng nghanol y cae. Yn y cefn, dangosodd Nia Jones o Gaerdydd (gynt o dîm Northophall) gadernid effeithiol wrth sicrhau nad oedd ymosodiadau prin yr Israeliaid ddim yn treiddio'n drwy fôr coch amddiffyn Cymru.

Ymlaen i fis Medi- a gêm a allasai fod yn dyngedfennol yn erbyn yr Alban, sydd yn drydydd ond wedi chwarae dwy gêm yn llai, yng Nghymru(y lleoliad heb ei benderfynu eto).

Ffrainc sydd ar y brig, ac yn debygol iawn o ennill y grŵp - ond gyda'r ail dîm yn cymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle yn yr Hydref, mae popeth i'w chwarae amdano ar ddechrau'r tymor nesaf.

Cymru 5 - Israel 0

Y gêm fawr

Glyn Griffiths|11:57, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Do, fe gynhaliwyd y gêm bêl droed hollbwysig nos Wener ddiwethaf ar gae pêl droed Nantlle Vale ym Mhenygroes er gwaethaf y gwynt,y glaw a'r tywydd stormus.

Gêm i ddathlu brwydr fawr Maes Dulyn oedd hi, sef y gêm a gynhaliwyd rhwng tîm Pobol y Cwm a thîm C'mon Midffild yn ystod Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle ac Arfon yn 1990.

Daeth Mr Arthur Picton a thîm eithaf profiadol at ei gilydd, Tecwyn Parry yn y gôl gyda chriw Rownd a Rownd a Sgorio yn cryfhau'r tîm. Ond doedd ei allu i sbarduno a defnyddio tic tacs yn ddim i'w gymharu â galluoedd Wali Tomos, rheolwr y gwrthwynebwyr. Roedd tîm Wali wedi mynd yn rhyngwladol ei naws gydag Owain Tudur Jones ac Iwan Roberts yn gosod trefn ar bethau. Profiad proffesiynol ar yr asgell hefyd wrth i asgellwr presennol Torquay United, Nathan Craig fygwth yn barhaol.

Criw 'Ar Y Marc' BBC Radio Cymru oedd yn helpu Wali Tomos. Dylan Jones, Meilir Owen, Ian Gill, Iwan Arwel, Tommy Collins a minnau - rhwng y pyst, heb adael yr un gôl i mewn! (gwyliwch y goliau yn wir!!), a phob un yn dilyn cyfarwyddiadau manwl Wali Tomos. Ie fe sicrhawyd ein bod wedi rhoi her go iawn iddyn nhw, a 'hell' hefyd!

Y dyfarnwr, fel yn y gêm wreiddiol yn 1990, oedd y Barnwr Nic Parry ond fe ddylwn ddiolch i bawb a drefnodd y gêm ac yn enwedig y cefnogwyr a fentrodd allan ar noson mor wlyb a stormus am eu cefnogaeth.

Ie, hwyrach mai gêm gyfeillgar oedd hon, ond fe ddangosodd trigolion Penygroes, a Dyffryn Nantlle fod ysbryd cefnogol yn parhau yn y fro Gymreig a digon o ddiddordeb yn yr hyn sydd yn digwydd yn eu cymuned.

Dathlwyd agoriad cae newydd Nantlle Vale hefyd ac os yw'r noson yma yn unrhyw linyn mesur o ymdeimlad yr ardal tuag at ei diwylliant, ei gweithgareddau a'i hanes yna fe ddylai dyfodol tîm y Vale fod yn un llewyrchus.

Diolch ichi gyd am droi allan ac am eich cefnogaeth.

Profiad newydd yn Stadiwm y Mileniwm

Glyn Griffiths|10:23, Dydd Mercher, 6 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Profiad newydd - y Sadwrn diwethaf es i Stadiwm y Mileniwm - nid am y tro cyntaf, ond am y tro cyntaf i weld gem rygbi.

Gem ryngwladol , Cymru yn erbyn y Barbariaid, ond daeth yn eithaf clir nad aelod o'r Gymuned Ewropeaidd oedd Barbaria. Yn wir, nid gwlad mohoni o gwbl, ond tîm Mickey Mouse - ond a bod yn hollol deg, tîm Teyrnas Unedig Mickey Steele-Bodger .

Mae'r rygbi teips wastad wedi dweud fod yna ddelwedd o awyrgylch unigryw mewn gem rygbi - efo'r canu yn profi fod y Cymry yn gantorion o fri.

Doedd y Sadwrn diwethaf yn ddim gwahanol os am greu stereoteips.

Gwahoddwyd pob côr, fel yr ymddengys, o dde Cymru i ganu pob can ystrydebol a oedd yn bodoli cyn y gêm, ond dim son am Delilah, Calon Lan na Chwm Rhondda gan y cefnogwyr !

Wel dyna ddelwedd wedi ei chwalu.

Yna daeth y timau allan, Hen Wlad Fy Nhadau i ni, a dim son am anthem i Deyrnas Unedig y Steele-Bodgers.

Yna, a dyma oedd y sioc fwyaf, cefnogwyr rygbi yn trio eu gorau i ymddwyn fel cefnogwyr peldroed - ac yn llwyddo.

Fel y daeth y dyfarnwr ar y cae, anelwyd bonllefain o gymanfa o sarhad i'w gyfeiriad!
Be oedd y dyn druan yma wedi ei wneud i'r Cymry bondigrybwyll yma i haeddu'r fath groeso?

Gwyddel oedd y dyfarnwr - Alain Rolland. Wel, fyddai Roland Rat ddim wedi cael ei sarhau i'r fath raddau a'r Gwyddel yma! Roedd yn edrych fel petai wedi tynnu'r byd a'i ben i waered!

A dyna ddelwedd frawdgarol honedig y byd rygbi wedi ei chwalu hyd yn oed cyn i'r gêm gychwyn!

Yna cymhlethdod arall i mi - roedd deg munud o'r gem wedi ei chwarae cyn imi sylweddoli nad oedd pêl o unrhyw fath i'w weld ar y cae! A'i rhyw gystadleuaeth ryngweithiol newydd o ddarganfod ble mae'r bel oedd hwn?

Digon o ymrafael a gwthio a tharo pennau wrth i'r ddau dîm ruthro ar ben ei gilydd, ond er imi edrych yn ofalus , doedd dim pêl i'w weld yn unman!

Yna megis fel mellten, aeth yr asgellwr ar garlam i lawr yr ochor dde ar gyflymder a fyddai yn gwneud I Gareth Bale edrych fel trên bach yr Wyddfa - llwyddodd Harry Robinson i fy argyhoeddi bod pêl yn bod, a'i sodro ar y gwair gan ennill pum pwynt I Gymru!

Pum pwynt - am un gôl! Dim rhyfedd na allwn gymhwyso ar gyfer unrhyw gystadleuaeth fyd eang peldroedaidd! Anodd deal y peth!

Cyn cloi dylwn ddweud fy mod yn fythol gwyno mewn gemau peldroed fod pobol yn methu ac eistedd yn llonydd ac yn codi pan mae unrhyw beth cyffrous yn digwydd. Doedd dim byd yn wahanol y Sadwrn diwethaf, ond i wneud pethau'n waeth ymddengys na all y cefnogwyr boneddigaidd yma fyw am awr a hanner heb fynd i brynu galwyni o gwrw. Roedd cymaint o fynd a dod a phobol yn ceisio cydbwyso cwpanau plastic o gwrw ar blât cardfwrdd nes gwneud i gêm ddartiau edrych fel cyfarfod o gymdeithas y dirwestwr!

Daeth dos o realiti i'r sefyllfa pan ofynnodd y wraig imi os hoffwn botel o gwrw! Pam meddwn i wyt ti eisiau cwrw mewn gem rygbi? Am fy mod yn cael, oedd ei hateb!
Ie, rhywle ynghanol hyn i gyd roedd yna gêm rygbi yn ceisio darganfod ei hun! Wn i ddim be oedd yn mynd ymlaen, ond pan sgoriodd Cymru efo cyffyrddiad olaf y gêm - ymddengys fod pawb wedi cael digon gan wneud eu ffordd adre wedi cynhyrfu yn lan.
Manchester City, Chelsea neu hyd yn oed Cymru a'r Barbariaid - mae rhai pethau yn gorffen jyst yr un fath!!

Bydd profiad newydd arall yn Stadiwm y Mileniwm cyn hir - tîm peldroed merched GB yn y Gemau Olympaidd , a cyn ichi ofyn, na ddwi ddim am fynd yno!

Croesawu Wali Tomos a Mr Picton i gêm fwya'r ganrif!

Criw Ar y MarcCriw Ar y Marc|12:35, Dydd Gwener, 1 Mehefin 2012

Sylwadau (0)

Cynhelir gêm bêl droed hollbwysig nos Wener, 8 o Fehefin 2012 ar gae pêl droed Nantlle Vale ym Mhenygroes ger Caernarfon.

Gêm dathlu brwydr fawr Maes Dulyn fydd hi, sef y gêm a gynhaliwyd rhwng tîm Pobol y Cwm a thîm C'mon Midffild yn ystod Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle ac Arfon yn 1990.

Y tro hwn tîm Arthur Picton fydd yn wynebu tîm Wali Tomos - a bydd y ddau yn sgwrsio ar raglen Ar y Marc fore Sadwrn, Mehefin 2ail am y gem fawr.

Bydd Tecwyn 'Tecs' Parry yn dychwelyd i'r maes am y tro cyntaf ers ugain mlynedd fel Capten Tîm Arthur Picton, a Malcolm Allen, y cyn bêl droediwr proffesiynol a sylwebydd Sgorio yn gapten y tîm arall. Mae eraill o'r timau gwreiddiol yn gobeithio ymddangos ar y cae, ond bydd criw Rownd a Rownd a Sgorio yn rhan o sgwad enfawr Tîm Mr Picton.

Criw 'Ar Y Marc' BBC Radio Cymru fydd yn helpu Wali Tomos. Malcolm Allen fydd yn arwain Dylan Jones, Meilir Owen ac eraill, ac yn dilyn cyfarwyddiadau manwl Wali Tomos. Y dyfarnwr, fel yn y gêm wreiddiol yn 1990, fydd y Barnwr Nic Parry. Dylai fod yn achlysur i'w gofio!

Bydd gêm 1990 yn cael ei chwarae ar sgrin fawr, a bydd maes Clwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle yn cael ei agor yn swyddogol ar ei newydd wedd fel rhan o ddathliadau'r noson.

Yn ôl Aled Jones Griffiths, Rheolwr y Clwb, mae hi'n fraint gwahodd ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd a phobl leol i'r maes newydd: "Rydyn ni wrth ein boddau bod digwyddiad mor fawr yn digwydd eto yma yn Nantlle Vale. Nôl ym 1990, pan oedd Steddfod yr Urdd yma ddiwethaf, roedd 3,000 o bobl yn gwylio'r gêm rhwng Bryn Coch United a Phobol y Cwm. Doedd dim modd symud yma, roedd ceir ym mhobman, ac roedd hi'n orlawn. Fe gawson ni amser gwych!"

Mae'r gêm i ddechrau am 6.45 o'r gloch, gyda digwyddiadau eraill ar y maes ynghynt.

Tâl mynediad yn £3 a phlant am ddim.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.