Y gêm fawr
Do, fe gynhaliwyd y gêm bêl droed hollbwysig nos Wener ddiwethaf ar gae pêl droed Nantlle Vale ym Mhenygroes er gwaethaf y gwynt,y glaw a'r tywydd stormus.
Gêm i ddathlu brwydr fawr Maes Dulyn oedd hi, sef y gêm a gynhaliwyd rhwng tîm Pobol y Cwm a thîm C'mon Midffild yn ystod Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle ac Arfon yn 1990.
Daeth Mr Arthur Picton a thîm eithaf profiadol at ei gilydd, Tecwyn Parry yn y gôl gyda chriw Rownd a Rownd a Sgorio yn cryfhau'r tîm. Ond doedd ei allu i sbarduno a defnyddio tic tacs yn ddim i'w gymharu â galluoedd Wali Tomos, rheolwr y gwrthwynebwyr. Roedd tîm Wali wedi mynd yn rhyngwladol ei naws gydag Owain Tudur Jones ac Iwan Roberts yn gosod trefn ar bethau. Profiad proffesiynol ar yr asgell hefyd wrth i asgellwr presennol Torquay United, Nathan Craig fygwth yn barhaol.
Criw 'Ar Y Marc' BBC Radio Cymru oedd yn helpu Wali Tomos. Dylan Jones, Meilir Owen, Ian Gill, Iwan Arwel, Tommy Collins a minnau - rhwng y pyst, heb adael yr un gôl i mewn! (gwyliwch y goliau yn wir!!), a phob un yn dilyn cyfarwyddiadau manwl Wali Tomos. Ie fe sicrhawyd ein bod wedi rhoi her go iawn iddyn nhw, a 'hell' hefyd!
Y dyfarnwr, fel yn y gêm wreiddiol yn 1990, oedd y Barnwr Nic Parry ond fe ddylwn ddiolch i bawb a drefnodd y gêm ac yn enwedig y cefnogwyr a fentrodd allan ar noson mor wlyb a stormus am eu cefnogaeth.
Ie, hwyrach mai gêm gyfeillgar oedd hon, ond fe ddangosodd trigolion Penygroes, a Dyffryn Nantlle fod ysbryd cefnogol yn parhau yn y fro Gymreig a digon o ddiddordeb yn yr hyn sydd yn digwydd yn eu cymuned.
Dathlwyd agoriad cae newydd Nantlle Vale hefyd ac os yw'r noson yma yn unrhyw linyn mesur o ymdeimlad yr ardal tuag at ei diwylliant, ei gweithgareddau a'i hanes yna fe ddylai dyfodol tîm y Vale fod yn un llewyrchus.
Diolch ichi gyd am droi allan ac am eich cefnogaeth.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 