Pencampwyr uwchgynghrair Cymru
Pan ysgrifennodd Aneirin am y Gododdin yn y chweched ganrif, tybed a oedd wedi meddwl y byddai ei farddoniaeth yn cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at gêm dyngedfennol yn Uwchgynghrair Cymru?
Ie wir, y gwŷr a aeth I Groesoswallt oedd ffraeth eu llu; trichant a mwy mewn cerbydau yn teithio yn llawn gobaith o Lannau'r Fenai dros Glawdd Offa i dref y Saeson, seithfed dydd.
Ond gwedi'r elwch, tawelwch fu.
Tawelwch yn wir ar ôl dim ond deng munud wrth i'r Seintiau sicrhau fod dathlu ofer cefnogwyr Bangor yn cael ei ddileu yn dilyn dwy gôl fuan cyn gweld y drydedd yn rhoi diwedd ar bopeth ar ôl ugain munud. Dau gôl i'r blaenwr Greg Draper a fydd yn chwarae dros Seland Newydd yn y gemau Olympaidd yn yr Haf, ac un gan gyn-chwaraewr Bangor, Chris Seargeant, yn rhoi halen ar y briw.
Cadarnhaodd y Seintiau eu meistrolaeth o'r gêm yn yr ail hanner gyda gôl unigol ar ôl awr gan Ryan Fraughan cyn gweld Draper yn cyflawni hat-tric gyda chic o'r smotyn deng munud cyn y diwedd.
Doedd ddim amheuaeth nad oedd y Seintiau am faglu eto eleni, yn dilyn y cwymp ym Mangor yn y gêm olaf y tymor diwethaf, ac yn mynd ati i sicrhau fod coron yr Uwchgynghrair yn cael ei osod ynghanol plasdy plastig brenin Oswallt!
Yn wir gellir dadlau mai dyma oedd perfformiad gorau'r Seintiau'r tymor yma, gyda grym, gallu a hyblygrwydd eu chwarae yn drysu Bangor yn gyfan gwbl nes iddynt greu mwy nac ambell i gamgymeriad allweddol yn yr amddiffyn.
Yn wir roedd perfformiad Y Seintiau yn fy atgoffa o'r perfformiad grymus a welwyd ganddynt ddwy flynedd yn ôl wrth chwalu Bohemiaid Dulyn o bedair gôl i ddim yn rownd agoriadol Cynghrair Ewrop.
Yn sgil llwyddiant o ennill pencamwriaeth Uwchgynghrair Cymru, roedd dathlu i lawr y ffordd yng Nghefn Mawr hefyd wrth i'r Derwyddon sicrhau eu lle yng Nghwpan Ewrop y tymor nesaf, gan eu bod yn wynebu'r Seintiau yn ffeinal Cwpan Cymru ar Fai'r 5ed, a'r Seintiau wedi cymhwyso'n barod ar gyfer taith i'r cyfandir.
Ie, anhysbys oedd y bardd a ysgrifennodd am ystafell Cynddylan, ac anhysbys oedd perfformiad Bangor bnawn Sadwrn diwethaf, a'u hystafell newid yn dawel heno, wylant wers, tawant wedi!
Yn y cyfamser, rhaid peidio ag anghofio mai un o dargedau Bangor oedd sicrhau gêm Ewropeaidd ar faes Nantporth yn yr Haf, ac mae hyn wedi ei wireddu. Hwyrach nad yw pethau mor ddrwg wedi'r cwbl. Ar y llaw arall, bydd y Seintiau yn gobeithio y gallant sicrhau trwydded ar gyfer cystadlu yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf pan gaiff eu hapêl yn erbyn y penderfyniad diweddar i wrthod y drwydded oherwydd yr angen am fwy o wybodaeth mewn perthynas ag adran isadeiledd y drwydded.
Pencampwyr ar y cae hwyrach, ond does dim byd yn syml yn y byd peldroed yng Nghymru!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 