Cefnogi Everton ac angen therapi
Dydd Sadwrn diwethaf roeddwn yn Wembley, wedi teithio yno ar y trên o ogledd Cymru ymysg cefnogwyr Cymreig , yn goch a glas.
Roeddwn yn llawn hyder a gobaith o weld Everton yn curo Lerpwl a chyrraedd ffeinal Cwpan Lloegr.
Wedi'r cwbl, mae David Moyes wedi bod yn Everton ers deng mlynedd a heb ennill unrhyw beth, ac yn chwarae yn erbyn tîm a ddibynnodd ar gyngor gwyddonwr sydd yn ymddiddori mewn ystadegau yn ymwneud a pherfformiadau chwaraewyr, ac a gafodd ei ddiswyddo ddeuddydd cyn y gêm!!
Roedd Lerpwl wedi gwario dros gan miliwn ar chwaraewyr a oedd yn ffitio'r gofynion ystadegol i'r dim, ond wedi cyflawni y nesa peth i ddim heblaw curo Caerdydd mewn Cwpan Mickey Mouse (a hefyd wedi gwario dros £35 miliwn ar Andy Carroll)!
Ond nid felly y bu. Wnaeth y gêm ddim mwy nac atgoffa cefnogwyr Everton mai pris aelodaeth o gefnogi'r tîm ydi fod yn rhaid derbyn yr ymdeimlad o gymhlethdod israddol pan mae'n dod i weld Everton yn chwarae mewn gêm ddarbi.
Gêm llawn tensiwn, gydag Everton yn codi gobaith pob un a oedd yn gwisgo crys glas pan fanteisiodd Nikica Jelavic ar smonach llwyr ynghanol amddiffyn Lerpwl a llithro'r bêl dros y llinell.
Ond, wrth gefnogi Everton, does a ŵyr beth wnaiff ddigwydd nesaf!
Beth bynnag allai Lerpwl ei wneud, a all Everton wneud tebyg, os nad gwell? Cafwyd ateb! Yn anffodus creu smonach i efelychu un Lerpwl oedd yr ymateb, gyda gôl ar blât yn cael ei chynnig i dîm King Kenny.
Er i Andy Carroll ymddangos fel petai yn cydymdeimlo wrth iddo fethu nifer o gyfleoedd i Lerpwl, fe newidiodd ei feddwl wedi gweld Craig Bellamy yn dod ar y cae fel eilydd.
Dri munud cyn y diwedd, mynd un yn well na Lerpwl a chreu smonach amddiffynnol arall wnaeth chwaraewyr Everton, pan droseddodd Seamus Coleman yn hollol ddianghenraid i ildio cic rydd ar yr asgell chwith. Bellamy yn codi'r bel yn gelfydd i ganol y cwrt chwech a Carroll yn ein lambastio wrth ôl benio gôl a sicrhaodd fuddugoliaeth a 'home run' yr holl ffordd i'r ffeinal i'r perchnogion Americanaidd o'r Boston Red Sox.
Unwaith eto, roedd ein haelodaeth o fod yn gefnogwyr Everton yn gyflawn ac yn llawn rhwystredigaeth gyda llwyddiant yn ddim mwy na rhywbeth I freuddwydio amdano wrth weld eich cymdogion yn eich gwawdio!
Bydd cefnogwr Cymreig Lerpwl yn gwneud taith arall i Anfield South (neu Wembley i chi a fi) i geisio ennill trip i Ewrop y tymor nesaf. Pwy a ŵyr, hwyrach na fydd angen iddynt deithio ymhellach nac i Gefn Mawr i wynebu Derwyddon? Dyna chi be' fyddai profiad!
Ond, hwyrch bydd angen i lawer o gefnogwyr Everton ystyried taith at y therapydd er mwyn cael gwared â'r cymhlethdod israddol sydd yn ymddangos fel petai wedi dod yn rhan annatod ac anhepgor o gefnogi'r tîm erbyn hyn!
Yn y cyfamser , taith i Old Trafford i wynebu Manchester United a pherchnogion Americanaidd eraill sydd o flaen Everton fore Sul.
Well imi fwcio lle efo'r therapydd reit handi cyn i'r gweddill rhuthro yno o'm mlaen! Have a nice day!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 