Gem olaf, dyngedfenol y tymor
Yn ôl y disgwyl, fe fydd gem olaf Uwchgynghrair Cymru eleni yn penderfynu pwy fydd y pencampwyr.
Fel y llynedd, bydd Bangor yn wynebu'r Seintiau Newydd.
Hefyd fel y llynedd, bydd angen buddugoliaeth ar Fangor tra y byddai gem gyfartal yn ddigon i'r Seintiau. Ond yn wahanol i'r llynedd , fe fydd y gêm yma yn cael ei chynnal yng Nghroesoswallt, ac nid ym Mangor.
Ffefrynnau? Wel oes yna un?
A fydd y cae plastig yn ffafrio chwarae'r Seintiau? Hwyrach, ond os ydi ystadegau yn arwyddocaol yna maen't wedi methu ac ennill adre mewn pedair gem (colli dwy a chyfartal dwywaith) tra mae Bangor wedi methu ac ennill tair gwaith oddi cartref (cyfartal unwaith a cholli tair) - gyda'r ddau dîm wedi ennill dwy gêm ar hugain yr un drwy'r tymor.
Tydi Bangor ond wedi ildio pymtheg gol oddi cartref, tra mae'r Seintiau wedi ildio pedair gôl ar bymtheg adref. Bangor yn sgorio tri deg dau o weithiau oddi cartref, tra bo'r Seintiau wedi sgorio pedwar deg un o goliau adre.
Beth mae'r ystadegau hyn yn eu profi? Fawr ddim heblaw profi mai'r ddau dîm gorau yn Uwchgynghrair Cymru fydd yn brwydro i fod yn bencampwyr brynhnawn Sadwrn!
Ar y llaw arall, mae hon yn gêm ble gall y cefnogwr chwarae eu rhan a gyda dim mwy na llond dyrniad o bobl yn dilyn y Seintiau, bydd llais côr niferus Nantporth i'w glywed ar hyd a lled Neuadd y Parc bnawn Sadwrn gyda channoedd yn teithio draw dros y ffin.
Tybed a'i dyna fydd yn gwneud y gwahaniaeth, er gwaethaf absenoldeb y dylanwadol gryf Les Davies oherwydd gwahardd?
Neu a fydd y Seintiau yn sicrhau fod ganddynt feistrolaeth lwyr o gae plastic ac mai dros y ffin i Loegr ac nid i Lannau'r Fenai fydd coron Uwchgynghrair Cymru yn cyrraedd unwaith eto?
Gyda llaw fe all cyn rheolwr Bangor, Nigel Adkins, greu ychydig o hanes iddo'i hun nos Sadwrn. Petai ei dim Southampton yn ennill yn Middlesbrough fe fyddant yn codi i Uwchgynghrair Lloegr. A bydd Nigel yn cael y fraint o fod yr unig reolwr i arwain tîm ym mhrif gynghreiriau Cymru a Lloegr?
Pob lwc iddo yntau.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 