Delwedd Uwchgynghrair Cymru yng ngolwg gwledydd eraill?
Beth ydi delwedd Uwchgynghrair Cymru yng ngolwg gwledydd eraill?
Os ydi erthygl o dan y penawd 'League of Wails' yn y 'Scottish Sun' (Mawrth 25) gan Roger Hannah yn unrhyw linyn mesur, yna does yna fawr i'w ganmol na'i efelychu. Gyda llaw mae'r llun a geir ar ben yr erthygl yn dangos cae peldroed y Trallwng (fel esiampl o safon y stadia mae'n debyg) - tydi'r Trallwng heb fod yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru ers 2009/10!
Sail yr erthygl oedd y gofid y gallai Rangers a Celtic dynnu allan o beldroed yr Alban a chael eu cynnwys o fewn cyfundrefn cynghreiriau Lloegr megis timau gorau Cymru, sef Abertawe a Chaerdydd.
Pe digwydd hynny, be fyddai ar ôl yn Uwchgynghrair yr Alban i'r deg tîm a fyddai yn parhau?
Os am ddefnyddio Uwchgynghrair Cymru fel esiampl, yna gellir disgwyl torfeydd isel, cyllid cyfyng iawn ar gyfer y timau, a diffyg enwau cyfarwydd ac enwog i ddenu'r torfeydd.
Cyfeiria'r erthygl hefyd at y diffygion parthed nawdd, marchnata, a masnachu'r gêm yn gyffredinol.
Byddai safon y chwarae yn yr Alban yn dirywio, y chwaraewyr gorau yn cael eu trosglwyddo yn amlach nac ar hyn o bryd, a byddai gemau yn Ewrop yn gweld dim gwell na 'Brwydr Brydeinig' yn erbyn, yn ôl yr erthygl, Llanelli.
Cyfeiria Hannah hefyd at y ffaith fod rhai clybiau yn yr Alban yn credu y byddai absenoldeb y ddau fawr yn agor y drws i gystadlu mwy agored.
Cyfeirir hefyd at y ffaith fod yna bedwar clwb gwahanol wedi cipio'r Uwchgynghrair yng Nghymru dros y pedwar tymor diwethaf. Serch hynny, mae'n nodi nad ydi'r gemau yn denu torfeydd mwy na welir, ym marn Hannah, mewn 'village fete'.
Cred Hannah y dylai'r ddau dîm mwyaf yn yr Alban barhau yn yr Alban ac y dylai gweddill timau'r Uwchgynghrair 'arogleuo'r cennin pedr' yn sgil cynhwysiant Celtic a Rangers cyn i'w gêm ddiflannu i 'Holyhead in a handcart'.
Dweud mawr? Barn deg a chywir? Na fernwch, fel na'ch barner?
O leiaf tydi timau Uwchgynghrair Cymru ddim yn wynebu dyfodol mor ansicr a'r hyn mae Rangers yn ei wynebu - ond allwn ni fod yn siŵr o hyn?
Yntau a ydi'r gwir yn brifo?
Os mai dyma'r ddelwedd a'r farn ymysg ein cefndryd Albanaidd, sut y gallwn ni werthu delwedd ein Uwchgynghrair yma yng Nghymru fel nas cawn ein beirniadu yn y fath fodd?
Rhywbeth i'w ystyried hwyrach gan y pwyllgor gwleidyddol sydd wedi cael ei sefydlu i ymchwilio i sefyllfa bresennol peldroed o fewn Cymru?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 