Ffarwel Ffordd Farrar
Darlledwyd rhaglen arbennig o Ar y Marc fore heddiw, Rhagfyr 24ain 2011, yn fyw o Ffordd Farrar, Bangor. Ymhen tridiau, bydd y clwb yn chwarae eu gem olaf ar y cae sydd wedi bod yn gartref iddyn nhw ers 1919, gan symud i'w cartref newydd ar safle Nantporth yn y flwyddyn newydd.
Bydd cyfle arall i glywed y rhaglen am 08:00 fore dydd San Steffan.
Dyma rai o luniau o'r rhaglen:
Ac i goffau'r achlysur fe ysgrifennodd Richard Llwyd Jones gerdd yn arbennig ar gyfer y rhaglen:
Ffarwelio â Ffordd Farrar
Oriau'r wefr yw'r erwau hyn
un achos ers y cychwyn.
Ein denu'i ganol dinas
tre' a gwlad - 'supportio'r 'glas.
Arno, cofiwn sawl gornest,
sêr y byd, John Charles a'r Best.
Nid angof siom tîm Tomi;
anhap, lwc ga'dd Napoli.
Gwynfor, J.M. ac Iorys
o'r cryd ,braint oedd gwisgo'r crys,
a gŵyr Les, y 'Bangor lad'
yr afiaith, rhannu'r profiad.
Gorffenwyd. Mae'r glwyd ar glo,
ar Ŵyl mae'n rhaid ffarwelio'n
llu, yn deulu, eto'n dal
yn armi i gae'r Normal.
O'n Farrar, rhan o hanes,
un graig,un gri ac un gwres;
a rhuo eto,'C-i-t-y'
y gân o hyd, 'hogia' ni'.
A hyder cân y teras
yn rhoi sglein i'r crysau glas.
Llwyfan wâg Farrar rhagor - o wylwyr,
rheolwr a phwyllgor.
Un tîm ydym pob tymor,
ar ein cae mynnu'r encore.
Richard Llwyd Jones
Rhagfyr 27, 2011







Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 